Winamp Logo
Y Coridor Ansicrwydd Podcast Cover
Y Coridor Ansicrwydd Podcast Profile

Y Coridor Ansicrwydd Podcast

English, Sports, 1 season, 239 episodes, 8 hours, 59 minutes
About
Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sydd yn "Y Coridor Ansicrwydd" ac yn barod i drafod digwyddiadau diweddar y byd pêl-droed
Episode Artwork

Craig Bellamy i Gymru!

Mae 'na gynnwrf mawr ymysg Malcolm Allen ac Owain Tudur Jones wrth iddyn nhw ymateb i benodiad Craig Bellamy yn rheolwr newydd Cymru.
7/10/202429 minutes, 55 seconds
Episode Artwork

Thierry Henry i Gymru?

Owain Tudur Jones sy'n trafod rhai o'r enwau sy'n cael eu cysylltu gyda swydd rheolwr Cymru ar i Gymdeithas Bêl-droed Cymru ddiswyddo Rob Page.
6/26/202432 minutes, 57 seconds
Episode Artwork

Cenfogwyr Cymru yn troi ar Page

Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n ystyried y niwed i reolwr Cymru Rob Page yn dilyn dau berfformiad tila mewn gemau cyfeillgar yn erbyn Gibraltar a Slofacia. Oes modd iddo aros er gwaethaf holl feirniadaeth y cefnogwyr? A beth am Ewro 2024? Mae'r ddau arbenigwr yn dewis yr enillwyr, y tîm i greu sioc a'r prif sgoriwr.
6/13/202446 minutes, 57 seconds
Episode Artwork

Canlyniad gwaethaf Cymru?

Mae'r emosiwn yn llifo wrth i Owain Tudur Jones a Malcolm Allen ymateb i gêm gyfartal Cymru yn erbyn Gibraltar. Ydi Rob Page mewn peryg o golli ei swydd fel rheolwr?
6/7/202431 minutes, 9 seconds
Episode Artwork

Gwobrau diwedd tymor

Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n dewis tîm y tymor ac yn gwobrwyo'r rheini sydd wedi serennu.
5/9/202447 minutes, 34 seconds
Episode Artwork

Angelina Jolie, Delia Smith ac Erol Bulut

Ydi Caerdydd wedi gwella o dan y rheolwr Erol Bulut y tymor yma? Mae 'na wahaniaeth barn mawr rhwng Owain Tudur Jones a Malcolm Allen. Ac ydi Mo Salah wedi pardduo ei enw da ar ôl ffraeo'n gyhoeddus efo Jurgen Klopp?
5/3/202444 minutes, 30 seconds
Episode Artwork

VAR i Gymru!

Y dyfarnwr Iwan Arwel sy'n egluro wrth Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sut yn union fydd "VAR Lite" yn cael ei ddefnyddio yn y Cymru Premier. Yn amlwg, mae Mal wrth ei fodd bod y dechnoleg ddadleuol yn cael ei gyflwyno i'r gynghrair!
4/25/202443 minutes, 22 seconds
Episode Artwork

Dyrchafiad dwbl Wrecsam

Blwyddyn ers ei ymddangosiad diwethaf, mae Waynne Phillips yn ôl i ddathlu dyrchafiad Wrecsam i'r Adran Gyntaf efo Owain Tudur Jones a Malcolm Allen - sydd wedi cyfansoddi cân arbennig i nodi'r llwyddiant diweddaraf.
4/18/202443 minutes, 8 seconds
Episode Artwork

Record Fishlock, Wrecsam yn tanio & danned newydd Mal

Malcom Allen ac Owain Tudur Jones sy'n talu teyrnged i Jess Fishlock wrth iddi gyrraedd 150 o gapiau dros Gymru. Ac mae'r ddau yn cytuno mai mater o amser ydi hi tan fydd Wrecsam yn sicrhau dyrchafiad i Adran Un.
4/11/202450 minutes, 42 seconds
Episode Artwork

Tatws, tomato a Ten Hag

Wrth i'r tymor ddirwyn i ben, mae'r hogia yn edrych ar obeithion Wrecsam o gael dyrchafiad a phwy fydd ar frig uwchgynghrair Lloegr, tra bod perfformiadau Abertawe a Chaerdydd bron mor anobeithiol â jôcs Malcolm!
4/4/202437 minutes, 18 seconds
Episode Artwork

Daw eto haul…

Ows a Mal sy’n dadansoddi tor calon Cymru yn erbyn y Pwyliaid ac yn trafod beth aeth o’i le yn ystod yr ymgyrch. Ac hefyd yn ymateb i gyhoeddiad y Gymdeithas bel droed y bydd Page yn parhau yn ei swydd.
3/28/202437 minutes, 33 seconds
Episode Artwork

Cymru v Y Ffindir

Ydi carfan iach yn rhoi cur pen i Page? Ymunwch ag OTJ a Malcs wrth iddyn nhw edrych ymlaen at y gêm dyngedfennol yn erbyn Y Ffindir nos Iau.
3/19/202437 minutes, 28 seconds
Episode Artwork

Croeso nol Rambo!

Ows a Mal sy’n trafod carfan Cymru ar gyfer gemau ail gyfle Ewro 2024, yn ogystal a’r ras am deitl Uwch Gynghrair Lloegr a darbi de Cymru.
3/14/202434 minutes, 28 seconds
Episode Artwork

Sion Pritchard: Dal i ddisgwyl am ddeg punt

Yr actor Sion Pritchard sy'n trafod ei gefndir pêl-droed a'i gariad at Lerpwl efo Owain Tudur Jones a Malcolm Allen. Ac mae gan un o'r ddau ymddiheuriad i'w neud ar ôl torri addewid i Sion bron i 30 mlynedd yn ôl...
3/7/202451 minutes, 15 seconds
Episode Artwork

Penodiad Wilkinson, cywion Klopp a chwis Dydd Gŵyl Dewi

Rheolwr newydd merched Cymru Rhian Wilkinson a chwaraewyr ifanc Lerpwl sy'n cael sylw Owain Tudur Jones a Malcolm Allen. Ac mae'r ddau yn cofio'r teimlad o chwarae eu gemau cyntaf nhw yn fechgyn ifanc.
3/1/202455 minutes, 1 second
Episode Artwork

Sut mae gwella'r Cymru Premier?

Yn dilyn cyhoeddiad Cymdeithas Bêl-droed Cymru bod £6m yn mynd i gael ei fuddsoddi i wella'r Cymru Premier, mae Owain Tudur Jones a Malcolm Allen yn ystyried sut ddylai'r arian yna gael ei wario. Oes angen mwy o glybiau? Oes angen mwy o glybiau proffesiynol? Oes gobaith i unrhyw glwb gystadlu yn erbyn Y Seintiau Newydd..? Pentwr o gwestiynau, fawr o atebion!
2/20/202430 minutes, 15 seconds
Episode Artwork

Isio Gras efo Cardiau Glas

Trafferthion clybiau Cymru, cardiau glas a Dydd San Ffolant sy'n cael sylw Owain Tudur Jones a Malcolm Allen.
2/15/202434 minutes, 6 seconds
Episode Artwork

Ronnie O'Sullivan, Terry Griffiths a bach o bêl-droed

Snwcer, cysgu, record Y Seintiau Newydd a ffeithiau difyr sy'n cael sylw Owain Tudur Jones a Malcolm Allen. Ac ydi hi'n amser i ddechrau poeni o ddifri am ganlyniadau Abertawe?
2/8/202447 minutes, 21 seconds
Episode Artwork

Evans yn serennu a Brooks mewn lle da

Siomedig oedd canlyniadau clybiau Cymru ym mhedwaredd rownd Cwpan FA Lloegr, ond o leiaf rhoddodd Gasnewydd fraw go iawn i Manchester United. Ac ôl sgorio yn erbyn cewri Old Trafford, fydd Will Evans wedi dal sylw rai o glybiau Adran Un neu hyd yn oed y Bencampwriaeth?Un sydd wedi symud ydi David Brooks, ac mae Owain Tudur Jones yn credu mai Southampton ydi'r lle perffaith i asgellwr Cymru ar hyn o bryd - ac yn darogan pethau mawr i'r rheolwr Russell Martin. Go brin fydd o mor llwyddiannus â Jurgen Klopp. Pwy fydd yn gallu llenwi'r esgidiau mawr yna yn Anfield?
2/1/202453 minutes, 20 seconds
Episode Artwork

Bygythiad Bulut a Triciau Toney

Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n ystyried os ydi rheolwr Caerdydd Erol Bulut wedi cael llond bol o weithio gyda'r perchennog Vincent Tan yn barod. Ac ydi Ivan Toney yn haeddu clod am ei dric slei wrth sgorio cic rydd?
1/24/202446 minutes, 29 seconds
Episode Artwork

Man Utd yn dod i Gasnewydd a chyfnewid crysau

Mae Malcolm Allen ac Owain Tudur Jones wedi cyffroi'n lan ar ôl i Gasnewydd sicrhau gêm gartref yn erbyn Manchester United ym mhedwaredd rownd Cwpan FA Lloegr. Ac mae'r ddau yn trafod beth maen nhw wedi ei wneud efo'i hen grysau - ac efo pwy ddaru nhw gyfnewid crys ar ddiwedd gêm.
1/18/202450 minutes, 8 seconds
Episode Artwork

Grainger yn gadael a'r Parchedig Pop/Pod

Ymateb Owain Tudur Jones a Malcolm Allen i'r newyddion syfrdanol fod Gemma Grainger wedi gadael ei swydd fel rheolwr Cymru i fynd at Norwy. Ac mae Alun Owens yn ymuno i drafod ei gariad at Wrecsam, yn ogystal â'r adeg gafodd o gyfarfod Franz Beckenbauer ar y Cae Ras.
1/11/202455 minutes, 11 seconds
Episode Artwork

Hogyn Llanbabs (a ffrind y pod) yn Old Trafford!

Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n ystyried pa effaith fydd Syr Dave Brailsford yn ei gael yn Manchester United wrth i'r brodor o Ddeiniolen baratoi i ymuno gyda'r clwb fel cyfarwyddwr pêl-droed. Mae'r ddau hefyd yn synnu at berfformiadau'r chwaraewr dartiau ifanc Luke Littler, ac yn cofio rhai o sêr ifanc eraill. A pham bod proses Abertawe i benodi rheolwr newydd wedi cymryd mor hir?
1/4/202453 minutes, 36 seconds
Episode Artwork

Arriverderci Osian, o na Onana a smonach Abertawe

Mae 'na naws Nadoligaidd wrth i Owain Tudur Jones a Malcolm Allen drafod swydd newydd Osian Roberts yn yr Eidal, problemau Abertawe wrth drio penodi rheolwr a chic o'r smotyn anobeithiol Amadou Onana. Mae'r ddau hefyd yn penderfynu pwy sy'n haeddu anrheg Nadolig am serennu dros y flwyddyn..a phwy sydd ddim!
12/21/202349 minutes, 6 seconds
Episode Artwork

Trafferthion Ten Hag, pêl-droed haf a sbectol newydd

Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n trafod problemau rheolwr Manchester United Erik Ten Hag a pha mor beryg ydi cael rhaniadau mewn ystafell newid. Ydi'r amser wedi dod i symud tymor Uwch Gynghrair Cymru i fisoedd yr haf? Mae Ows a Mal yn poeni bod y gynghrair wedi mynd yn "sdêl". A phwy sydd wedi gorfod cael sbectol newydd..?
12/14/202347 minutes, 49 seconds
Episode Artwork

Pwy nesa' i Abertawe?

Malcolm Allen ac Owain Tudur Jones sy'n cael cwmni cefnogwr brwd Abertawe Mei Emrys i drafod diswyddiad Michael Duff a phwy sydd yn y ffrâm i'w olynu. Mae'r tri yn asesu perfformiadau diweddar tîm merched Cymru a gawn ni bach o hanes am waith sylwebu Mei, a phwy ydi ei hoff gyd-sylwebydd.
12/7/202343 minutes, 10 seconds
Episode Artwork

James McClean yn neud Malcolm yn flin

Goliau gorau, VAR (wrth gwrs) a'r Ffindir sy'n cael sylw Owain Tudur Jones a Malcolm Allen. A gawn ni glywed pam fod Malcolm am roi James McClean yn y gell cosb.
11/30/202348 minutes, 55 seconds
Episode Artwork

Ail gyfle i Gymru gyrraedd yr Almaen

Mae ysbryd Malcolm Allen ac Owain Tudur Jones isel ar ôl i Gymru fethu â churo Armenia a Thwrci i gyrraedd Ewro 2024, ond mae cyfle arall ar y gorwel i gyrraedd yr Almaen haf nesaf.
11/23/202345 minutes, 31 seconds
Episode Artwork

Armenia v Cymru: Talu'r Pwyth yn Ôl

Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n edrych ymlaen at ddwy gêm enfawr i Gymru yn erbyn Armenia a Twrci yn rowndiau rhagbrofol Ewro 2024. Ac ydi ffrind y podlediad "Dave Deiniolen" ar fin cael swydd gyda Manchester United?
11/16/202339 minutes, 29 seconds
Episode Artwork

Arteta, Spurs v Chelsea a sliperi gwyn OTJ

Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n trafod os aeth rheolwr Arsenal Mikel yn rhy bell wrth gwyno am benderfyniadau VAR yn erbyn ei dîm. Mae'r ddau yn trio gwneud synnwyr o beth ddigwyddodd yn y gêm ryfeddol rhwng Tottenham Hotspur a Chelsea, ac mae Owain yn esbonio pam fod o mor hoff o wisgo esgidiau pêl-droed gwyn.
11/8/202343 minutes, 24 seconds
Episode Artwork

Gweld sêr

Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy’n ystyried pa chwaraewyr presennol sy’n atgoffa nhw fwyaf ohonyn nhw’u hunain. Mae’r dewisiadau yn syfrdanol! Mae’r ddau hefyd yn edrych ymlaen ar ddwy gêm bwysig Cymru yng Nghynghrair y Cenhedloedd i Ferched ac yn trafod canlyniadau diweddar Abertawe, Caerdydd, Casnewydd a Wrecsam.
10/26/202340 minutes, 57 seconds
Episode Artwork

Ar y bws i'r Lleuad

Mae'r hwyliau'n uchel wrth i Owain Tudur Jones a Malcolm ddathlu buddugoliaeth Cymru yn erbyn Croatia yn rowndiau rhagbrofol Ewro 2024 - un o'r canlyniadau gorau yn hanes y tîm cenedlaethol. Ac mae Owain yn ddigon parod i gyfaddef bod ganddo ymddiheuriad i'w wneud i Rob Page.
10/18/202343 minutes, 43 seconds
Episode Artwork

Sut mae stopio Luka Modric?

Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n edrych ymlaen at gêm anferth Cymru yn erbyn Croatia yn rowndiau rhagbrofol Ewro 2024 yng Nghaerdydd. A'r cwestiwn mawr - sut fydd Cymru yn gallu tawelu capten Croatia Luka Modric?
10/13/202349 minutes, 6 seconds
Episode Artwork

Ar VAR'enaid i! (rhan 2)

Mae Malcolm Allen wedi cael llond bol o VAR (eto!) ac mae gan Owain Tudur Jones syniad difyr sut i neud 'throw ins' yn fwy difyr.
10/5/202333 minutes, 44 seconds
Episode Artwork

Efo stêm yn dod allan o'u clustiau..

Malcolm Allen ac Owain Tudur Jones sy'n trafod pa mor anodd ydi swydd rheolwr clwb pêl-droed proffesiynol, a chychwyn siomedig Cymru yng Nghynghrair y Cenhedloedd.
9/28/202348 minutes, 45 seconds
Episode Artwork

Y botwm panig yn Abertawe, Cwis Bob Dydd a Wyn Thomas

Mae Owain Tudur Jones yn poeni'n fawr am helynt Abertawe, tra bod y cyn amddiffynnwr Wyn Thomas yn ymuno am sgwrs i hel atgofion am ei yrfa hirfaith yn y Cymru Premier. A pha aelod o'r teulu sydd wedi siomi Malcolm Allen?
9/21/20231 hour, 3 minutes, 40 seconds
Episode Artwork

Rhyddhad yn Riga

Buddugoliaeth Cymru yn Latfia sy'n cael prif Owain Tudur Jones a Malcolm Allen - yn ogystal â'r dacl filain ar Jordan James. A pam yn y byd bod LaLiga yn dod i Lanfairpwll?!
9/13/202350 minutes, 14 seconds
Episode Artwork

Anturiaethau Fish y pysgodyn aur

Y ffenestr drosglwyddo sy'n cael prif sylw Owain Tudur Jones a Malcolm Allen wrth i wariant Uwch Gynghrair Lloegr fynd drwy'r to. Ac mi gawn ni stori anhygoel Fish y pysgodyn aur.
9/7/202345 minutes, 7 seconds
Episode Artwork

Dyfodol Rob Page, "shin pads" a taro 200

Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n ystyried os ydi dyfodol rheolwr Cymru Rob Page yn y fantol dros y ddwy gêm nesaf. A'r cwestiwn mawr - pa "shin pads" oedd y ddau'n gwisgo?
8/31/202338 minutes, 48 seconds
Episode Artwork

Be nesa’i Joël Piroe?

Ymddeoliad Ben Foster a dyfodol Joël Piroe, dim ond rhai o bynciau trafod yr wythnos yma
8/24/202341 minutes, 16 seconds
Episode Artwork

Rob Page yn cau'r drws ar Joe Allen

Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n ymateb i sylwadau Cymru Rob Page fod amser Joe Allen gyda'r garfan wedi dod i ben. Ac mae'r ddau yn cofio'r cyfnodau anodd gydag anafiadau.
8/16/202340 minutes, 42 seconds
Episode Artwork

Malcolm yr Archdderwydd?!

Malcolm Allen ac Owain Tudur Jones sy'n trafod canlyniadau'r penwythnos agoriadol, ac yn edrych ymlaen at dymor newydd y Cymru Premier. Ac mae 'na newyddion syfrdanol am Archdderwydd newydd.
8/9/202352 minutes, 43 seconds
Episode Artwork

Cynnwrf cyn cychwyn tymor

Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n trafod gobeithion Abertawe, Caerdydd, Casnewydd a Wrecsam ar drothwy tymor newydd, ac yn asesu canlyniadau clybiau Cymru yn Ewrop.
8/3/202353 minutes, 30 seconds
Episode Artwork

SOS Galw Super Joey Allen

Wedi canlyniadau siomedig Cymru, mae Owain Tudur Jones a Malcolm Allen yn cychwyn yr ymgyrch i gael Joe Allen yn ôl ac yn fodlon cadw ffydd gyda Rob Page... am y tro.
6/22/202344 minutes, 32 seconds
Episode Artwork

Carl Roberts: Haws dweud na gwneud

Y sylwebydd pêl-droed Carl Roberts sy'n trafod ei ddoniau chwaraeon gyda Malcolm Allen ac Owain Tudur Jones, gan gynnwys uchafbwynt ei yrfa pan sgoriodd hat-tric yn Deepdale...(er fod o ddim yn hoff o siarad am y peth).
6/15/202344 minutes, 17 seconds
Episode Artwork

Fydd Bulut yn tanio Caerdydd?

Dewis annisgwyl Caerdydd i benodi Erol Bulut yn rheolwr sy'n mynnu prif sylw Owain Tudur Jones a Malcolm Allen. Ond mae'n rhaid cychwyn gyda hanes Owain ar ben camel ym Moroco.
6/8/202346 minutes, 41 seconds
Episode Artwork

Lockyer, Luton a Low

Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy’n trafod carfan Cymru, dyrchafiad Luton ac yn y dewis tîm y tymor o Uwch Gynghrair Lloegr.
5/31/202344 minutes, 23 seconds
Episode Artwork

Gwobrau diwedd tymor - rhan 2

Mae'r "noson wobrwyo" yn parhau wrth i Malcolm Allen ac Owain Tudur Jones ddewis mwy o uchafbwyntiau'r tymor. A tra bod un yn poeni am ymadawiad y tîm rheoli yn Abertawe, mae'r llall wrth ei fodd gyda llwyddiant Newcastle United.
5/25/202353 minutes, 24 seconds
Episode Artwork

Gwobrau diwedd tymor - rhan 1

Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n dewis tîm a gêm y tymor, yn ogystal â'r chwaraewyr sydd wedi mynd tu hwnt i ddisgwyliadau. Ac mae'r ddau yn cynnig cyngor i Vincent Tan wrth iddo chwilio am reolwr newydd arall i Gaerdydd.
5/18/202356 minutes, 59 seconds
Episode Artwork

Faswn i ddigon da i chwarae i...

Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n trafod ar ba lefel fydda nhw'n gallu chwarae tasa nhw'n bêl-droedwyr rŵan, a lle mae Abertawe a Chaerdydd angen gwella ar gyfer tymor nesaf. Mae pethau'n dechrau poethi hefyd yn y ras i ennill y Gynghrair Proffwydo.
5/12/202349 minutes, 52 seconds
Episode Artwork

Dim lle ar y bws i OTJ!

Hanes Owain Tudur Jones yng nghanol dathliadau Wrecsam, tra bod Malcolm Allen yn datgelu talent am ddawnsio. Mae'r ddau hefyd yn trafod ymddygiad diweddar rheolwr Lerpwl Jurgen Klopp... ac mae rhywun yn dioddef anaf wrth recordio (sy'n eithaf eironig)!
5/4/202353 minutes, 16 seconds
Episode Artwork

Cledwyn Ashford: Dathlu dyrchafiad Wrecsam (o'r diwedd!)

Yn dilyn dyrchafiad Wrecsam i'r Ail Adran wedi 15 mlynedd hir o fethiant, sgowt y clwb Cledwyn Ashford sy’n ail-fyw'r parti mawr ar y Cae Ras efo Owain Tudur Jones a Malcolm Allen.
4/27/202345 minutes
Episode Artwork

Wrecsam bron yna!

Mae Owain Tudur Jones a Malcolm Allen yn hyderus fydd 'na barti ar y Cae Ras nos Sadwrn wrth i Wrecsam ddathlu ennill Cynghrair Genedlaethol Lloegr a dyrchafiad i'r Ail Adran.
4/20/202337 minutes, 59 seconds
Episode Artwork

A Fo Ben Bid Bont!

Arbediad arwrol Ben Foster a thrafferthion Caerdydd sy’n cael sylw Ows a Malcs wsos yma
4/14/202339 minutes, 36 seconds
Episode Artwork

Dadansoddi'r Darbi

OTJ a Malcs sy’n edrych nol ar y ddarbi fawr ac yn edrych ymlaen at Basg anferth i Wrecsam.
4/6/202327 minutes, 10 seconds
Episode Artwork

Dwy gêm, pedwar pwynt

Owain a Malcolm sy'n edrych nol ar ddwy gêm agoriadol Cymru i gyrraedd Ewro 2024
3/30/202333 minutes, 21 seconds
Episode Artwork

Croatia a Latfia

OTJ a Malcolm yn edrych ymlaen at ymgyrch newydd wrth i Gymru ceisio cyrraedd Ewro 2024.
3/23/202334 minutes, 9 seconds
Episode Artwork

Jonny Fu Dda

OTJ a Malcs sy'n trafod carfan Cymru, Jonny Williams a phroblemau Abertawe a Chaerdydd
3/16/202351 minutes, 11 seconds
Episode Artwork

Diolch Gunts

Owain a Mal sy'n edrych nol ar yrfa Chris Gunter i Gymru.
3/10/202341 minutes, 46 seconds
Episode Artwork

Wrecsam yn ôl ar y brig!

Wrecsam, Cymru a chân newydd i Ryan a Rob yw'r pynciau trafod gyda Geraint Lovgreen
3/2/202334 minutes, 57 seconds
Episode Artwork

Masterclass Modric, Bradshaw neu Broadhead?

Owain a Malcolm yn edrych yn ôl dros wythnos bryusur welodd Lerpwl yn cael crasfa, rhediad gwael Abertawe yn parhau ond adfywiad i Gaerdydd.
2/24/202339 minutes, 19 seconds
Episode Artwork

Joe Allen, Nathan Jones ac Owain a’i feic

Owain a Mal sy'n trafod cyfraniad Joe Allen i Gymru a chyfnod Nathan Jones yn Southampton
2/16/202342 minutes, 2 seconds
Episode Artwork

Mullin i Gymru?

Ffeinal o’r diwedd i’r ‘Toon Army’ ac a ydi Paul Mullin yn haeddu lle yng ngharfan Cymru?
2/3/202343 minutes, 24 seconds
Episode Artwork

‘Giant killing’ arall i Wrecsam a phwy ydi Sabri Lamouchi?!

Rheolwr newydd yr Adar Gleision a Wrecsam yn erbyn Sheffield Utd yng Nghwpan yr FA. Dim ond rhai o bynciau trafod wythnos yma!
1/27/202346 minutes, 52 seconds
Episode Artwork

Pwy nesa’i Gaerdydd?

Owain a Malcs sy’n trafod pwy fydd rheolwr nesaf Caerdydd ac yn ffarwelio â hen ffrind.
1/20/202337 minutes, 50 seconds
Episode Artwork

Y Brenin Bale!

Yn dilyn ei ymddeoliad, Owain a Malcs sy’n edrych nol ar yrfa wefreiddiol Gareth Bale
1/13/202347 minutes, 58 seconds
Episode Artwork

Addunedau Blwyddyn Newydd

Owain a Malcs yn trafod pwy fydd yn ennill Uwch Gynghrair Lloegr ac yn hel atgofion am chwarae yng Nghwpan yr FA
1/6/202344 minutes, 1 second
Episode Artwork

Ffeinal Cwpan y Byd, Dolig a’r Lygoden fawr!

Owain a Malcs yn bwrw golwg yn ôl dros ffeinal Cwpan y Byd, edrych ymlaen at y Dolig ac yn dewis uchafbwyntiau 2022.
12/23/202246 minutes, 5 seconds
Episode Artwork

“Ennill hon a fo fydd y gore erioed!”

Ows a Malcs sy’n edrych ‘mlaen at y ffeinal ac yn holi pwy di’r ‘GOAT’?
12/16/202243 minutes, 15 seconds
Episode Artwork

Ymlaen i’r Wyth Ola'

Owain a Malcs sy’n edrych mlaen at 8 ola Cwpan y Byd ac yn gofyn be aeth o’i le’i Gymru!
12/9/202249 minutes
Episode Artwork

Diwedd y daith

Owain sy'n cael cwmni Iwan Roberts, Dafydd Pritchard a Carl Roberts ar y podlediad Cwpan y Byd olaf.
11/30/202215 minutes, 52 seconds
Episode Artwork

Cymru 0-3 Lloegr

Owain a Malcs sy'n dadansoddi'r gêm yn erbyn Lloegr gyda Dylan Ebenezer a Sioned Dafydd.
11/29/20229 minutes, 51 seconds
Episode Artwork

Beth wedodd Malcs wrth Rob Page?

Owain, Malcolm a Carl sy'n sgwrsio ar ôl cynhadledd y wasg Cymru cyn chwarae Lloegr.
11/28/202212 minutes, 38 seconds
Episode Artwork

Joe Bach

Owain sy'n clywed gan Joe Allen a sgwrsio gyda Dylan Griffiths a Malcolm Allen.
11/27/202213 minutes, 1 second
Episode Artwork

Y 'Dî-brîff'

Y bore ar ôl colli i Iran, mae Owain yn cael cwmni Carl Roberts a Kath Morgan.
11/26/202214 minutes, 16 seconds
Episode Artwork

Cymru 0-2 Iran

Owain a gwesteion sy'n dadansoddi canlyniad Cymru yn erbyn Iran.
11/25/202212 minutes, 2 seconds
Episode Artwork

Helo Malcs!

Ma' Owain yn cael cwmni Malcolm Allen i edrych ymlaen at y gêm yn erbyn Iran.
11/24/202220 minutes, 23 seconds
Episode Artwork

Mor Fawr Wyt Ti

Owain sy'n sgwrsio efo Dylan Griffiths a Gwennan Harries a clywed gan Rubin Colwill.
11/23/202214 minutes, 4 seconds
Episode Artwork

Clebran ar y Corniche

Ma' Owain yn cael cwmni Carl Roberts i drafod gêm neithiwr ar y Corniche yn Doha.
11/22/202211 minutes, 26 seconds
Episode Artwork

UDA 1-1 Cymru

Owain sy'n dadansoddi UDA 1-1 Cymru yng nghwmni Iwan Roberts a Iolo Cheung.
11/22/20228 minutes, 34 seconds
Episode Artwork

Pasbort Parry

Owain sy'n cael cwmni Nic Parry ac Osian Roberts i edrych ymlaen at gêm Cymru v UDA.
11/20/202210 minutes, 52 seconds
Episode Artwork

Cymraeg yw iaith y daith

Ma' Owain Tudur Jones a Dylan Griffiths yn holi amddiffynwr Cymru Ben Davies a sgwrsio gyda Pennaeth Cyfathrebu Cymdeithas Bêl-droed Cymru a chyn-ymosodwr Cymru Iwan Roberts.
11/19/202217 minutes, 43 seconds
Episode Artwork

Pwy fydd rhwng y pyst?

Owain sy'n trafod pwy fydd golwr Cymru nos Lun gyda Carl Roberts a Dylan Ebenezer.
11/18/202213 minutes, 53 seconds
Episode Artwork

Cyrraedd Qatar!

Owain sy'n cael cwmni Gwennan Harries a Sioned Dafydd yng nghanolfan ymarfer Cymru.
11/17/20229 minutes, 56 seconds
Episode Artwork

Mae Cwpan y Byd yma (bron!)

Gyda llai na wythnos i fynd cyn y gem gynta' draw yn Qatar mae Owain a Malcolm yn teimlo'r cyffro a'r nerfusrwydd! Oes gobaith i Joe Allen? Pwy fydd yn serennu i Gymru? Pwy fydd yn dechrau yn erbyn yr Unol Daleithiau? Ac ydi Malcolm angen gwersi cyfri? Mae'r atebion i gyd i'w cael yma!
11/15/202230 minutes, 56 seconds
Episode Artwork

Cyhoeddi carfan Qatar!

Mae Malcolm ac Owain yn mynd yno i sylwebu, ond pwy sy'n mynd yno i chwarae pel-droed? Golwg fanylach ar garfan Cymru gafodd ei chyhoeddi gan Rob Page nos Fercher. Mae cyffro mawr wrth i Qatar agosau.
11/11/202239 minutes, 57 seconds
Episode Artwork

Pwyso a Mesur

Mae Ows a Malcs yn pigo ei garfan 26 chwaraewr Cymru am Cwpan y Byd!
11/4/202249 minutes, 2 seconds
Episode Artwork

Cochion Cyflym

Ows a Malcs yn edrych nôl ar ddarbi de Cymru ac yn edrych ymlaen at cwpan y byd!
10/28/20221 hour, 44 seconds
Episode Artwork

Y Ddarbi Fawr!

Darbi fawr de Cymru sy'n cael sylw Ows a Malcs
10/21/202242 minutes, 25 seconds
Episode Artwork

Iolo Cheung: Gwr yr ystadegau

Ynghanol cyfnod prysur i dimau Cymru mae Owain a Malcolm yn cael cwmni gohebydd BBC Cymru, Iolo Cheung i ddadansoddi colled tîm y merched yn y Swistir, craffu ar grŵp a phosibiliadau Cymru o gyrraedd Ewro 2024 yn ogystal â thrafod gobeithion Cymru yng Nghwpan y Byd.
10/13/202254 minutes, 35 seconds
Episode Artwork

Owain Harries: Creu hanes ac atgofion gyda merched Cymru

Wrth i Gymru baratoi i wynebu Bosnia yn rownd ail-gyfle gemau rhagbrofol Cwpan y Byd i Ferched, swyddog y wasg Cymdeithas Bêl-droed Cymru Owain Harries sy’n trafod ei brofiad o weithio gyda’r garfan dros y blynyddoedd diwethaf.
10/5/202247 minutes
Episode Artwork

Chwilio am Luis Figo yn cael headbutt yn y gofod

Mae Cymru wedi disgyn o Adran A Cynghrair y Cenhedloedd ond does dim angen poeni'n ormodol yn ôl Owain Tudur Jones a Malcolm Allen. A be mae Luis Figo wedi bod yn neud yn y gofod?
9/28/202243 minutes, 52 seconds
Episode Artwork

Diswyddo Steve Morison ac anafiadau Cymru

Tydi Owain Tudur Jones a Malcolm Allen methu coelio penderfyniad Caerdydd i ddiswyddo'r rheolwr Steve Morison. A sut fydd Cymru yn dygymod heb Joe Allen, Ben Davies, Harry Wilson ac Aaron Ramsey yng Ngwlad Belg?
9/20/202242 minutes, 13 seconds
Episode Artwork

Cytundeb newydd Rob Page

Am unwaith mae Owain Tudur Jones a Malcolm Allen yn gytûn - mae Rob Page yn llawn haeddu cael cytundeb newydd i fod yn rheolwr Cymru am y pedair blynedd nesaf. A be mae'r ddau yn ei wybod am Luke Harris, yr enw newydd yn y garfan i wynebu Gwlad Belg a Gwlad Pwyl?
9/16/202240 minutes, 25 seconds
Episode Artwork

Pleser a phoen

Llwyddiant tîm merched Cymru wrth gyrraedd gemau ail-gylfe rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd a damwain poenus Mal ydi'r prif bynciau trafod wythnos yma.
9/8/20221 hour, 2 minutes, 29 seconds
Episode Artwork

Cau'r ffenest

Owain a Malcolm sy'n sgwrsio am eu hoff ymosodwyr wrth i'r ffenestr drosglwyddo gau.
9/2/202252 minutes, 23 seconds
Episode Artwork

Manchester United yn curo Lerpwl!

Owain a Malcolm sy'n trafod Manchester United yn curo Lerpwl a phroblemau Abertawe.
8/25/202250 minutes
Episode Artwork

Kath Morgan: Amser am chwildro yng ngêm y merched

Cyn chwaraewr Cymru a'r sylwebydd Kath Morgan sy'n trafod datblygiad gêm y merched gydag Owain Tudur Jones a Malcolm Allen. Fydd llwyddiant Lloegr yn elwa Cymru? Ac mae un gêm yn benodol dros y penwythnos wedi cyffroi Malcolm yn arw...
8/17/202250 minutes, 51 seconds
Episode Artwork

Ar goll yn Nhregaron!

Aeth hi'n flêr ar Owain Tudur Jones yn Nhregaron ar ôl profi sesiwn gyntaf Eisteddfodol, ac mae Malcolm Allen yn amau doethineb Steve Morison wrth feirniadu'u chwaraewyr eto.
8/11/202250 minutes, 44 seconds
Episode Artwork

Y Coridor yn y Sdeddfod!

Pennod arbennig wrth i Malcolm Allen ac Owain Tudur Jones drafod o flaen cynulleidfa fyw ar faes Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion yn Nhregaron.
8/1/202249 minutes, 28 seconds
Episode Artwork

Corwen, cneifio a chyffro'r tymor newydd

Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n trafod eu hanturiaethau dros yr haf ac yn ysu i'r tymor newydd gychwyn, Ac mae un o'r ddau yn disgwyl pethau mawr gan i glwb o Gymru....
7/28/20221 hour, 1 minute, 6 seconds
Episode Artwork

Mae hi wedi bod yn emosiynol!

Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n crynhoi cyfnod rhyfeddol o bêl-droed rhyngwladol ym mhennod ola'r tymor. Ac mae'r ddau am fynd i grwydro - un i Gorwen a'r llall i Magaluf!
6/16/202246 minutes, 21 seconds
Episode Artwork

Mae Cymru wedi cyrraedd Cwpan y Byd!

Mae'r emosiwn a'r balchder yn llifo wrth i Owain Tudur Jones a Malcolm Allen drafod buddugoliaeth hanesyddol Cymru yn erbyn Wcráin i gyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd yn Qatar.
6/6/202250 minutes, 25 seconds
Episode Artwork

'Y gêm fwyaf yn hanes pêl-droed Cymru'

Owain a Malcolm sy'n trafod Cymru yn erbyn Wcrain cyn y gêm fawr ar ddydd Sul!
6/2/202224 minutes, 45 seconds
Episode Artwork

Tensiwn, siom a dathliadau diwedd tymor

Wedi'r siom yn Wembley, mae'r sylw'n troi at y Cae Ras ar gyfer gêm enfawr arall i Wrecsam yn erbyn Grimsby yn rownd gynderfynol gemau ail-gyfle Cynghrair Genedlaethol Lloegr. Ac ydi Jack Grealish wedi gorffen dathlu ar ôl i Machester City gipio tlws Uwch Gynghrair Lloegr ar ddiwrnod olaf dramatig.
5/27/202245 minutes, 50 seconds
Episode Artwork

Angharad Davies: Llygad VARcud ym Madrid

Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n sgwrsio gydag Angharad Davies, sy'n dechnegydd gyda chwmni Hawkeye yn Sbaen. Ac yn syfrdanol, mae hi'n llwyddo i newid meddwl Mal am fanteision VAR!
5/19/202242 minutes, 37 seconds
Episode Artwork

"Dwi erioed 'di actio yn Shameless!"

Wrth i Wrecsam wneud yn wych i aros yn y ras am ddyrchafiad, mae Owain Tudur Jones yn dechrau cael digon o ymgais Malcolm Allen i brofi mai fo ydi cefnogwr mwyaf Wrecsam! Fydd na ddiweddglo Hollywood i dymor y Dreigiau? Mae'r ddau yn ffyddiog. Ac mae gan Owain neges eithaf clir i Abertawe o ran arwyddo Joe Allen...
5/12/202247 minutes, 54 seconds
Episode Artwork

Newidiadau mawr ar droed yn Abertawe

Newyddiadurwr pêl-droed Wales Online Ian Mitchelmore sy'n ymuno gyda Malcolm Allen ac Owain Tudur Jones i drafod yr haf prysur sydd o flaen rheolwr Abertawe Russell Martin.
5/5/202246 minutes, 52 seconds
Episode Artwork

Sioc enfawr i bawb!

Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n ymateb i'r newyddion bod S4C wedi colli hawliau i ddarlledu gemau Cymru. Digon o sylw hefyd i helynt glybiau Cymru wrth i'r tymor ddirwyn i ben, a cawn wybod pam bod Penybont wedi gwylltio OTJ.
4/29/202249 minutes, 34 seconds
Episode Artwork

Emlyn Lewis: O gwrso defaid i goncro Lloegr

Capten Cymru C Emlyn Lewis sy'n ymuno am sgwrs efo Owain Tudur Jones a Malcolm Allen i drafod y fuddugoliaeth wych ddiweddar yn erbyn Lloegr C yng Nghaernarfon.
4/21/202248 minutes, 51 seconds
Episode Artwork

Helen a Tash yn cyrraedd cant

Owain a Malcolm sy'n edrych yn ôl ar berfformiadau tîm merched Cymru, gobeithion Wrecsam o ennill y gynghrair a'r ras i frig Uwch-gynghrair Lloegr.
4/14/202243 minutes, 53 seconds
Episode Artwork

Dwi'n caru Gareth Bale!

Am wythnos i bêl-droed yng Nghymru - tydi Owain Tudur Jones a Malcolm Allen ddim yn siwr lle i gychwyn!
4/5/202243 minutes, 29 seconds
Episode Artwork

Amdani yn erbyn Awstria

Mae Malcolm Allen ac Owain Tudur Jones llawn hyder cyn i Gymru wynebu Awstria yn y gêm ail-gyfle yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd 2022.
3/23/202228 minutes, 20 seconds
Episode Artwork

Anaf Danny Ward, Y Seintiau Newydd a welis Paul Bodin

Carfan Cymru ar gyfer y gêm fawr yn erbyn Awstria sy'n cael prif sylw Malcolm Allen ac Owain Tudur Jones. A beth oedd y ddau yn ei wneud mewn coedwig dywyll efo Paul Bodin..?
3/17/202246 minutes, 50 seconds
Episode Artwork

Ian Gwyn Hughes

Pennaeth cyfarthrebu Cymdeithas Bêl-droed Cymru yw gwestai arbennig Malcolm Allen ac Owain Tudur Jones. Ac mae ganddo sawl stori ddofyr am ei gyfnod yn edrych ar ôl sêr Cymru.
3/10/202258 minutes, 48 seconds
Episode Artwork

Amheuaeth dros Cymru v Awstria a chosb Cei Connah

Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n trafod effaith posib y rhyfel yn Wcráin ar gemau Cwpan y Byd Cymru, ac yn ymateb i gosb 18 pwynt Cei Connah yn Uwch Gynghrair Cymru.
3/4/202246 minutes, 24 seconds
Episode Artwork

Dafydd Jones: Nôl i Qatar?

Cyn flaenwr Cymru Dafydd Jones sy'n trafod ei gariad at bêl-droed, a'i obeithion i ddychwelyd i Qatar, efo Malcolm Allen ac Owain Tudur Jones.
2/17/202241 minutes, 47 seconds
Episode Artwork

XI Cymru yn erbyn Awstria a helynt Cei Connah

Mae Mal ac Ows yn actio fel cyd-reolwr Cymru ac yn dechrau dewis y tîm i wynebu Awstria - ac yn rhyfeddol does 'na fawr o anghytuno. Ond mae 'na wahaniaeth barn mawr am ddyfodol Cei Connah.
2/10/202246 minutes, 25 seconds
Episode Artwork

Ramsey i Rangers ac Aberystwyth yn dathlu 1,000 o gemau

Cyfarwyddwr Aberystwyth Thomas Crockett sy'n rhannu straeon ac atgofion gydag Owain Tudur Jones a Malcolm Allen wrth i'r clwb gyrraedd carreg filltir nodedig. Ac mae Malcolm dal mewn sioc ar ôl i Aaron Ramsey arwyddo i Rangers.
2/3/20221 hour, 1 minute, 44 seconds
Episode Artwork

Mr Urdd, Wrecsam a Willy Gueret

Owain a Mal sy'n trafod rhediad da Wrecsam a doniau canu'r perchennog Rob McElhenney, ac yn rhannu straeon am ddau gymeriad lliwgar rhwng y pyst - Willy Gueret a Bruce Grobbelaar.
1/28/202243 minutes, 8 seconds
Episode Artwork

Mal Boy a Rhodri

Dyfodol Robert Page, ail-gychwyn y Cymru Premier a helynt Jamie Paterson - rhai o'r pynicau trafod i Owain Tudur Jones a Malcolm Allen.
1/20/202243 minutes, 3 seconds
Episode Artwork

Chwarae heb hyder

Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n trafod sut mae diffyg hyder yn gallu dinistrio chwaraewyr, ac os fydd Burnley yn gartref newydd i Kieffer Moore.
1/13/202241 minutes, 20 seconds
Episode Artwork

Howay the lads! Ramsey a Rodon i Newcastle?

Mae Malcolm Allen ac Owain Tudur Jones yn credu bod hi'n amser i Aaron Ramsey a Joe Rodon symud clybiau yn ystod mis Ionawr. Ac yn ôl Mal, does nunlle gwell na Newcastle.
1/6/202249 minutes, 53 seconds
Episode Artwork

Heb y gorffennol, does dim dyfodol...

Y sylwebydd pêl-droed Dylan Griffiths sy'n ymuno efo Owain Tudur Jones a Malcolm Allen i edrych yn ôl ar uchafbwyntiau 2021. Ac wrth gwrs, mae gan Mal ddigon o jôcs Nadoligaidd i agor ffatri gracers.
12/21/202146 minutes, 7 seconds
Episode Artwork

W capten!

Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n ystyried beth sy'n neud capten da, ac yn dewis pa wledydd fydda nhw'n hoffi i Gymru wynebu yng Nghynghrair y Cenhedloedd flwyddyn nesaf.
12/15/202138 minutes, 7 seconds
Episode Artwork

Croeso cynnes i Steve Cooper yn Abertawe?

Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n ystyried sut groeso geith Steve Cooper wrth ddychwelyd i Abertawe yn rheolwr Nottingham Forest, ac yn trafod cyflogau mawr chwaraewyr ifanc.
12/9/202156 minutes, 45 seconds
Episode Artwork

Awstria? Bring it on!

Mae Malcolm Allen ac Owain Tudur Jones yn breuddwydio am Qatar ar ôl darganfod gwrthwynebwyr Cymru yng ngemau ail gyfle Cwpan y Byd. Ond mae'r ddau yn gofidio am ddyfodol Bangor.
12/2/202149 minutes, 47 seconds
Episode Artwork

Llŷr Evans: Hogyn y Kop

Yr actor Llŷr Evans sy'n gwmni i Owain Tudur Jones a Malcolm Allen i drafod ei gariad at Wrecsam a Lerpwl.
11/26/202148 minutes, 6 seconds
Episode Artwork

Cymru! Cymru! Cymru!

Mae Owain Tudur Jones a Malcolm Allen wrth eu bodd ar ôl i Gymru sicrhau gêm gartref yng ngemau ail-gyfle rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd. Ond pam bod OTJ yn llechu wrth dŷ Mal?
11/19/202140 minutes, 48 seconds
Episode Artwork

Y bennod Bale

Awr o addoli Gareth Bale ar drothwy ei ganfed cap dros Gymru wrth i Owain Tudur Jones a Malcom Allen ddewis tri o uchafbwyntiau ei yrfa yn y crys coch.
11/11/20211 hour, 2 minutes, 52 seconds
Episode Artwork

Llwyddaint Russell Martin yn fygythiad i Abertawe?

Mae Owain Tudur Jones yn poeni bod rheolwr Abertawe Russell Martin yn dechrau denu gormod o sylw, tra bod jôcs Malcolm Allen yn gwaethygu.
11/5/202146 minutes, 45 seconds
Episode Artwork

Pwy fyddai’n rheolwr?

Mae Owain Tudur Jones a Malcolm Allen ar ben eu digon ar ôl canlyniad Lerpwl ac yn amau dyfodol Ole Gunnar Solskjaer fel rheolwr Man Utd. Ac ydi robotiaid ar fin rhedeg y lein?
10/28/202145 minutes, 20 seconds
Episode Artwork

Abertawe yn hedfan...Caerdydd yn cropian

Dim ond un pwnc trafod sydd i Malcolm Allen ac Owain Tudur Jones wythnos yma - buddugoliaeth ysgubol Abertawe yn erbyn Caerdydd. Ac mae 'na gyfaddefiad anhygoel gan un o'r ddau...
10/22/202148 minutes, 55 seconds
Episode Artwork

"Mae Hollywood yn dod i Crosby!"

Is-hyfforddwr Marine Alan Morgan sy'n gwmni i Malcolm Allen ac Owain Tudur Jones i drafod y gêm fawr yn erbyn Wrecsam. Cyfle drafod canlyniadau Cymru a'r newid mawr yn Newcastle.
10/14/20211 hour, 19 seconds
Episode Artwork

Dwy gêm enfawr i Gymru

Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n llawn gobaith cyn i Gymru deithio i Prague a Tallinn ar gyfer gemau hollbwysig yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd 2022.
10/6/202155 minutes, 20 seconds
Episode Artwork

Cychwyn y diwedd i Mick McCarthy?

Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n holi os fydd Caerdydd yn chwilio am reolwr newydd cyn hir yn lle Mick McCarthy. Ac mae'r ddau'n datgelu eu doniau Eisteddfodol annisgwyl...
10/1/202139 minutes, 56 seconds
Episode Artwork

Jimmy Greaves - colli cawr arall

Malcolm ac Owain Tudur Jones sy'n talu teyrnged i ddoniau Jimmy Greaves - ar y cae ac ar y sgrin fach. Sylw hefyd i ganlynaidau gwych merched Cymru ac i drafferthion Cei Connah.
9/23/202147 minutes, 21 seconds
Episode Artwork

Mari Edwards: Wrecsam, Ronaldo a Ryan a Rob

Rheolwr tîm merched Wrecsam Mari Edwards sy'n ymuno gyda Malcolm Allen ac Owain Tudur Jones i drafod y chwyldro ym mhêl-droed merched a'r newidiadau cyffrous i glwb y Cae Ras.
9/16/202147 minutes, 46 seconds
Episode Artwork

Ergyd enfawr Estonia

Mae'r siom yn amlwg wrth i Malcolm Allen ac Owain Tudur Jones drafod gêm ddi-sgôr Cymru yn erbyn Estonia yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd 2022. Ond oes 'na achos dathlu hefyd..?
9/10/202141 minutes, 34 seconds
Episode Artwork

Neges gan Robert Page!

Perfformiad calonogol Cymru yn erbyn y Ffindir sy'n cael sylw Owain Tudur Jones a Malcolm Allen. Ac wrth drafod, mae Mal yn cael neges amserol gan y rheolwr Robert Page!
9/2/202137 minutes, 47 seconds
Episode Artwork

Gemau rhyngwladol ar y gorwel

Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n trafod carfan Rob Page cyn y gemau rhyngwladol, a pha chwaraewyr oedd yn sâl yn ymarfer ond yn wych ar bnawn Sadwrn.
8/26/202144 minutes, 34 seconds
Episode Artwork

Cysylltiad! Cysylltiad!

Mae cychwyn sigledig Abertawe yn poeni Owain a Mal, ond mae 'na gynnwrf mawr am Wrecsam. A gawn ni hanes dau gerdyn coch Owain, a'r adeg pan ddoth David Moyes i'w sgowtio.
8/19/202153 minutes, 15 seconds
Episode Artwork

Barod amdani?

Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n edrych ymlaen at dymor newydd Uwch Gynghrair Cymru ac Uwch Gynghrair Lloegr, ac yn trafod Lionel Messi yn gadael Barcelona am PSG.
8/12/202157 minutes, 30 seconds
Episode Artwork

Mae'r siop ar agor!

Malcolm Allen ac Owain Tudur Jones sy'n edrych ymlaen at gychwyn y tymor newydd - ond mae'r ddau yn poeni am sefyllfa Abertawe...
8/5/202150 minutes, 40 seconds
Episode Artwork

Ewro 2020: "Os fasa Lloegr wedi ennill, faswn i ddim wedi cysgu am flynyddoedd!"

Malcolm Allen ac Owain Tudur Jones sy'n dewis eu huchafbwyntiau o Ewro 2020, ac yn ymfalchïo mai'r Eidal oedd yn bencampwyr (fel ddaru rhai proffwydo!).
7/14/202148 minutes, 25 seconds
Episode Artwork

Ewro 2020: Ben Davies a Jack Sparrow

Amddiffynnwr Cymru Ben Davies sy'n trafod yr ymgyrch wych yn Ewro 2020 gyda Malcolm Allen ac Owain Tudur Jones, ac yn datgelu sut maen nhw wedi bod yn ymlacio yn Baku a Rhufain.
6/24/202144 minutes, 54 seconds
Episode Artwork

Ewro 2020: Dim cwsg ers Baku!

Newyddiadurwr BBC Cymru Dafydd Pritchard sy’n ymuno gyda Mal ac Owain i drafod cychwyn gwych Cymru yn Azerbaijan - ac mae’r tri yn hyderus bod lle yn yr 16 olaf yn ddiogel.
6/18/202141 minutes, 48 seconds
Episode Artwork

Ewro 2020: Gwneud ffrindiau yn Baku

Mae Owain Tudur Jones wedi cyrraedd Baku - ac wedi cael ei adnabod yn barod! A chyda dyddiau'n unig cyn gêm gyntaf Cymru yn erbyn y Swistir, mae Malcolm Allen llawn nerfau!
6/10/202143 minutes, 40 seconds
Episode Artwork

Mae'r Ewros yn galw!

Mae'r cyffro'n cynyddu wrth i Owain Tudur Jones a Malcolm Allen asesu paratoadau Cymru ar gyfer gêm agoriadol Cymru yn Ewro 2020 yn erbyn Y Swistir.
6/4/202141 minutes, 27 seconds
Episode Artwork

Emyr Huws: Dal i gredu

Chwaraewr canol cae Cymru Emyr Huws sy’n rhannu ei obeithion am y dyfodol efo Owain a Mal, ac yn cofio’r siom o gael ei adael allan o’r garfan ar gyfer Ewro 2016.
5/26/202149 minutes, 49 seconds
Episode Artwork

Wembley o fewn cyrraedd a dewisiadau anodd i Rob Page

Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n trafod y gemau ail-gyfle i Abertawe a Chasnewydd, a phwy fydd yn cael eu gadael allan o garfan Cymru ar gyfer Ewro 2020.
5/21/202153 minutes, 52 seconds
Episode Artwork

Rhodri Jones: O Old Trafford i'r Hen Aur

Y cyn-bêl-droediwr Rhodri Jones sy'n trafod ei lyfr newydd 'Meddwl Am Man U' gyda Malcolm Allen ac Owain Tudur Jones.
5/12/20211 hour, 2 minutes, 10 seconds
Episode Artwork

Llion Williams: Bangor, Bryncoch a Brechin City

Yr actor Llion Williams, chwaraeodd ran George Huws yn y gyfres gomedi C'mon Midffîld, sy'n rhoi'r byd pêl-droed yn ei le gyda Malcolm Allen ac Owain Tudur Jones.
5/7/202155 minutes, 31 seconds
Episode Artwork

Malcolm "The Boss" Allen

Diwrnod mawr yn hanes y podlediad - mae Owain Tudur Jones yn cydnabod bod Malcolm Allen yn gwybod mwy na fo am bêl-droed!
4/29/202148 minutes, 7 seconds
Episode Artwork

Ta ta Super League... am y tro

Y Super League Ewropeaidd oedd pwnc llosg mawr yr wythnos - ac am unwaith roedd Malcolm ac Owain yn gytûn! Ymateb hefyd i Jose Mourinho yn cael ei ddiswyddo gan Spurs.
4/22/202144 minutes, 55 seconds
Episode Artwork

Gareth Roberts: Cruyff, Sgorio ac Everton

Y darlledwr Gareth Roberts sy'n ymuno gyda Malcolm Allen ac Owain Tudur Jones i drafod ei ddyddiau gyda Sgorio, chwarae i Fangor a'i gariad tuag at Everton.
4/15/202159 minutes, 22 seconds
Episode Artwork

Wrth gicio a brathu...

Roedd hi'n Basg o ganlyniadau siomedig i Abertawe, Caerdydd, Wrecsam a Chasnewydd ac mae'r tensiwn yn dechrau dangos rhwng Owain a Malcolm!
4/7/202146 minutes, 41 seconds
Episode Artwork

Canlyniad campus Cymru a dysgu Cymraeg i "Cookie"!

Dadansoddi buddugoliaeth wych i Gymru ganol wythnos a dysgu Cymraeg i Chris Coleman
4/2/202141 minutes, 15 seconds
Episode Artwork

Y gôl orau erioed gan Gymru

Er y siom o golli i Wald Belg yn gêm gyntaf rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd, roedd digon i blesio Owain a Malcolm gan Gymru - yn enwedig gôl Harry Wilson!
3/26/202146 minutes, 49 seconds
Episode Artwork

Angharad James: Ar antur i America

Chwaraewr canol cae Cymru Angharad James sy'n gwmni i Malcolm Allen ac Owain Tudur Jones wrth iddi baratoi i adael i chwarae yn America. A pwy fydd yn ennill y darbi Gymreig?
3/18/202148 minutes, 29 seconds
Episode Artwork

Cymru yn troi at Page a sioc enfawr gan y Seintiau

Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n pori dros newyddion mawr yr wythnos ac yn cofio rhai o ganlyniadau gorau clybiau Cymru yn Ewrop 50 mlynedd ers i Gaerdydd guro Real Madrid.
3/11/202153 minutes, 31 seconds
Episode Artwork

Del Boy a Rodney Cymru

Cytuneb newydd i McCarthy, gôl hwyr i Abertawe a menter newydd i Coleman. Yn ogystal â hynny, mae Owain Tudur Jones a Malcolm Allen yn trafod y partneriaethau enwocaf ar y cae.
3/5/202141 minutes, 35 seconds
Episode Artwork

Nathan Craig - y Cofi yn Goodison

Cyn-chwaraewr Everton a Chymru dan21 Nathan Craig sy'n trafod ei yrfa a'i obeithion yng Nghaernarfon gyda Malcolm Allen ac Owain Tudur Jones.
2/25/202158 minutes, 35 seconds
Episode Artwork

"Fel teigr yn y jyngl yn ogleuo gwaed..."

Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n ystyried pwy ydi'r pyndits gorau ac yn rhyfeddu at rediad diweddar Manchester City.
2/19/202142 minutes, 57 seconds
Episode Artwork

Diolch Dai

Malcolm Allen ac Owain Tudur Jones sy'n talu teyrnged i'r diweddar Dai Davies - ffrind a mentor i'r ddau.
2/11/202138 minutes, 27 seconds
Episode Artwork

Dylan Ebenezer, George Clooney a Robbie Rotten!

Y cyflwynydd a'r sylwebydd Dylan Ebenezer sy'n gwmni i Malcolm Allen ac Owain Tudur Jones yr wythnos yma. Ond pwy ydi "lookalikes" y tri golygus yma?!
2/4/20211 hour, 12 seconds
Episode Artwork

Ashley Williams a'r larwm tân yn Sweden

Ymddeoliad cyn-gapten Cymru Ashley Williams a phenodiad Mick McCarthy yn Nghaerdydd sy'n cael sylw Owain Tudur Jones a Malcolm Allen yr wythnos yma.
1/29/202148 minutes, 5 seconds
Episode Artwork

Pwy nesa' i Gaerdydd?

Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n trafod pwy all Gaerdydd benodi fel rheolwr ar ôl diswyddo Neil Harris, ac ymateb i benderfyniad Jaye Ludlow i adael Cymru.
1/22/202150 minutes, 33 seconds
Episode Artwork

Hwyl fawr Gareth Blainey - yr unig un i allu cau ceg Malcolm Allen!

Wrth i'w yrfa o dros 30 mlynedd ddod i ben gyda BBC Cymru, Gareth Blainey sy'n ymuno gyda Malcolm ac Owain i drafod rhai o'i uchafbwyntiau - ac ambell isafbwynt!
1/14/20211 hour, 6 minutes, 23 seconds
Episode Artwork

Gwobrau 2020 ac 'un cyri yr wythnos'

Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n edrych nôl ar 2020 cyn edrych ymlaen at y flwyddyn i ddod - ac yn datgelu adduned syfrdanol blwyddyn newydd.
1/6/202144 minutes, 20 seconds
Episode Artwork

"Dim ond un seren..."

Ymunwch gyda Mal ac Owain am barti Nadolig arbennig iawn Y Coridor Ansicrwydd - sy'n cynnwys fersiwn unigryw o gân Delwyn Siôn Un Seren!
12/23/202050 minutes, 18 seconds
Episode Artwork

Dadansoddi'r darbi, blinder a rheol Bosman

Owain a Mal sy'n edrych yn ôl ar fuddugoliaeth Abertawe yn erbyn Caerdydd ac yn gofyn os oes na ormod o gemau hyn o bryd. Ac mae gan Owain llawer i ddiolch i Jean-Marc Bosman.
12/17/202053 minutes, 16 seconds
Episode Artwork

Gwennan Harries: O'r cwrt cosbi i'r pwynt sylwebu

Cyn ymosodwr Cymru ac Everton Gwennan Harries sy'n ymuno gyda Mal ac Owain i drafod ei dyddiau chwarae a'i gyrfa newydd tu ôl i'r meic - ac yn cymharu anafiadau pen-glin difrifol!
12/10/20201 hour, 5 seconds
Episode Artwork

Ffilmio Wrecsam, adfywiad Caerdydd a chroesawu cefnogwyr (yn Lloegr)

Wrth i'r ffilmio gychwyn ar gyfer rhaglen ddogfen Wrecsam, Owain a Mal sy'n trafod yr effaith posib ar y maes ymarfer a phwy oedd yn hoffi sylw'r camerâu yn eu cyfnod nhw
12/4/202047 minutes, 49 seconds
Episode Artwork

"Nes i ddysgu lot gan Maradona - sut i beidio pasio!"

Marc Lloyd Williams, prif sgoriwr yn hanes Uwch Gynghrair Cymru, sy'n ymuno gyda Mal ac Owain i rannu rhai o'i gyfrinachau sgorio a trafod ei lwyddiant diweddar fel hyfforddwr.
11/27/202049 minutes, 28 seconds
Episode Artwork

Adran A amdani!

Mae Malcolm Allen ac Owain Tudur Jones yn llawn canmoliaeth ar ôl i Gymru sicrhau dyrchafiad i Adran A yng Nghynghrair y Cenhedloedd
11/20/202038 minutes, 46 seconds
Episode Artwork

Osian Roberts: O Fôn i Foroco

Cyn is-hyfforddwr Cymru, Osian Roberts, sy'n ymuno efo Owain a Mal i drafod ei flwyddyn gyntaf yn gweithio ym Moroco a'i gynlluniau ar gyfer y dyfodol.
11/11/20201 hour, 17 minutes, 32 seconds
Episode Artwork

"Mae unrhyw bwynt oddi cartref yn bwynt da"

Meilir Owen - sylwebydd efo Radio Cymru am 30 mlynedd - sy'n rhoi'r byd pêl-droed yn ei le efo Owain a Malcolm. A sut fydd Rob Page yn dylanwadu ar garfan Cymru?
11/6/20201 hour, 13 seconds
Episode Artwork

Pwy yw gôl-geidwad Giggs?

Malcolm ac Owain sy'n trafod colled tîm merched Cymru, dilema gôl-geidwad Giggs a'r gyfres newydd o 'I'm A Celebrity'.
10/30/202041 minutes, 10 seconds
Episode Artwork

Rhodri Meilir

Yr actor Rhodri Meilir, cefnogwr brwd Everton, sy'n dadansoddi'r gêm ddarbi yn erbyn Lerpwl efo Owain a Malcs, ac yn trafod ei yrfa ar y sgrin ac yn y theatr.
10/20/202051 minutes, 33 seconds
Episode Artwork

Pwynt gwerthfawr yn Nulyn?

Ar ôl gêm ddi-sgôr diflas i Gymru yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon, mae tactegau y rheolwr Ryan Giggs yn dechrau poeni Owain a Malcs.
10/13/202044 minutes, 16 seconds
Episode Artwork

"Does dim gêm gyfeillgar yn erbyn Lloegr!"

Owain a Mal yn edrych ymlaen at yr her sy'n wynebu Cymru yn Wembley, yn cofio'r cynnwrf yn Lens ac yn crafu pen ar ôl crasfa Lerpwl.
10/7/202042 minutes, 1 second
Episode Artwork

Waynne Phillips

Curo Arsenal, gyrru gwyllt Mickey Thomas, parch at Brian Flynn - mae gan Waynne Phillips atgofion lu o'r dyddiau da ar y Cae Ras. Ac yn gobeithio am fwy diolch i sêr Hollywood..
9/30/20201 hour, 7 minutes, 52 seconds
Episode Artwork

Thiago v OTJ

Be ddigwyddodd pan oedd rhaid i Owain drio marcio Thiago Alcantara, seren newydd Lerwpl? Ac mae Mal yn cael trafferth mawr efo alpaca!
9/22/202043 minutes, 27 seconds
Episode Artwork

John Hartson

Cyn ymosodwr Cymru sy'n trafod ei yrfa liwgar a'r gwersi mae o wedi ei ddysgu ar hyd y ffordd. Ac wrth gwrs, mae yna ddigon o drafod am ddyfodol Gareth Bale!
9/17/20201 hour, 6 seconds
Episode Artwork

Chwe phwynt, Ampadu a darogan y dyfodol

Owain a Malcolm sy’n asesu dwy fuddugoliaeth Cymru ac yn rhoi eu pennau ar y bloc ar drothwy tymor newydd
9/10/202038 minutes, 10 seconds
Episode Artwork

Llwyddiant yn Ewrop a charfan Cymru

Dathlu canlyniadau'r Bala ac YSN ac ydi Malcolm wedi newid ei feddwl am Hal Robson-Kanu?
8/31/202038 minutes, 24 seconds
Episode Artwork

Ta-ta tymor 2019-2020

Rheolwr y tymor? Chwaraewr y tymor? Gêm y tymor? Dyma farn Owain a Malcolm
8/3/202032 minutes, 10 seconds
Episode Artwork

Bryn Terfel

Bara brith a chwisgi efo Syr Alex, cyfarfod Clint Eastwood, gwylio Gareth Bale yn ymarfer gyda Real Madrid - roedd gan Syr Bryn Terfel atgofion lu i'w rhannu efo Malcs ac Owain
7/24/202059 minutes, 44 seconds
Episode Artwork

Owen Powell - Caerdydd, Cymru a Catatonia

Y gitarydd Owen Powell (Catatonia, Crumblowers a Mr) sy’n rhannu straeon roc a rôl a phêl-droed - ac yn creu grŵp newydd gyda Malcolm!
7/16/202051 minutes, 10 seconds
Episode Artwork

Ar VAR'enaid i!

Mae Malcs wedi cael llond bol o VAR, tra bod trafferthion gwallt OTJ yn parhau
7/7/202044 minutes, 3 seconds
Episode Artwork

Joe Allen

Arwr Cymru Joe Allen sy'n ymuno am sgwrs efo Owain Tudur Jones a Malcolm Allen
7/2/202059 minutes, 34 seconds
Episode Artwork

Y Cymro perffaith

Pa chwaraewyr fydda Owain a Malcs yn eu cyfuno i wneud y Cymro perffaith? A llawer mwy!
6/24/20201 hour, 4 minutes, 59 seconds
Episode Artwork

Y pêl-droediwr perffaith

Sut fydda Owain a Malcs yn mynd ati i greu'r chwaraewr perffaith?
6/17/20201 hour, 3 minutes, 2 seconds
Episode Artwork

Y pump fflop

Malcolm ac Ows yn troi'n gas wrth ddewis chwaraewyr mwyaf siomedig Uwch Gynghrair Lloegr
6/10/202055 minutes, 12 seconds
Episode Artwork

Gôls, gôls a mwy o gôls!

Owain a Malcs sy'n dewis eu hoff ymosodwyr sydd heb chwarae yn Uwch Gynghrair Lloegr
6/3/20201 hour, 4 minutes, 14 seconds
Episode Artwork

Pump disglair Uwch Gynghrair Cymru

Pwy yw'r goreuon yn hanes Uwch Gynghrair Cymru? Mae 'na enwau mawr heb wneud y rhestr!
5/26/20201 hour, 4 minutes, 3 seconds
Episode Artwork

Cymry gorau Uwch Gynghrair Lloegr

Owain a Malcs yn dewis pump chwaraewr o Gymru sydd wedi serennu yn Uwch Gynghrair Lloegr
5/19/202052 minutes, 13 seconds
Episode Artwork

Allen/Brailsford

Syr Dave Brailsford, hen ffrind Malcolm, sy'n ymuno efo'r hogia am sgwrs
5/12/202049 minutes, 41 seconds
Episode Artwork

Be sy' ar y bocs?

Malcs ac Owain sy’n trafod be ma nhw di bod yn ei wylio ar y teledu ac yn dyfalu sut siap fydd ar y byd pel droed pan ddaw nol?
5/5/202026 minutes, 38 seconds
Episode Artwork

Dau Gymro yn Watford - Rhan 2

Cwffio yn China a partis Elton John – mwy o hanes Iwan Roberts a Malcolm Allen yn Watford
4/18/202048 minutes, 59 seconds
Episode Artwork

Dau Gymro yn Watford - Rhan 1

Iwan Roberts yn ymuno â Malcolm ac Owain i gofio am eu dyddiau cynnar yn Watford
4/15/202043 minutes, 3 seconds
Episode Artwork

Dylanwad rheolwyr – y da y drwg a'r gwirion!

Mae Malcolm yn dal i drio perffeithio’i sgiliau yn yr ardd gefn, tra fod yntau ac Owain yn trafod eu rheolwyr gorau, rheolwyr gwaetha ac ambell i un gwirion!
4/9/202047 minutes, 42 seconds
Episode Artwork

Hunan-ynysu, prinder cyris ac Ian Rush

Owain a Malcolm sy'n rhannu eu profiadau o hunan-ynysu ac yn gofyn 'be nesa'i bȇl droed?'
4/1/202034 minutes, 15 seconds
Episode Artwork

Hel atgofion – goliau cyntaf a mwy

Owain a Malcolm yn cofio eu goliau cyntaf a Malcs yn ail fyw ei gôl enwocaf dros Gymru!
3/26/202031 minutes, 6 seconds
Episode Artwork

Effaith y Coronafirws ar bêl-droed

Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy’n trafod effaith y coronafeirws ar bêl-droed
3/17/202025 minutes, 51 seconds
Episode Artwork

Anaf Joe Allen, Man United a triciau budur!

Owain a Malcs yn ymateb i’r newydd am anaf Joe Allen ac effaith Coronafeirws ar bêl-droed
3/10/202038 minutes, 6 seconds
Episode Artwork

Lerpwl, Cynghrair y Cenhedloedd a twf gêm y merched

Owain a Malcs yn bwrw golwg dros hynt a helynt y byd pêl-droed gan gynnwys canlyniadau gwael Lerpwl a’r amddiffynnwyr sydd yn awyddus i greu argraff ar Ryan Giggs.
3/5/202029 minutes, 16 seconds
Episode Artwork

Y ffeit fawr, VAR a debut Ows Llyr

Owain a Malcs gyda’i golwg unigryw ar ddigwyddiadau’r byd pêl-droed a llawer mwy gan gynnwys buddugoliaeth Tyson Fury
2/25/202040 minutes, 21 seconds
Episode Artwork

Trafferthion Man City, storm Dennis a gwesteion pryd bwyd delfrydol!

Owain a Malcs a'u golwg unigryw ar ddigwyddiadau’r byd pêl-droed gan gynnwys helyntion diweddaraf Manchester City, effaith gwefannau cymdeithasol ar iechyd meddwl a pwy fydde'u gwesteion pryd bwyd delfryfol
2/18/202043 minutes, 34 seconds
Episode Artwork

Giggs, Everton a siwmper Malcs!

Owain a Malcs sy'n trafod Ryan Giggs, y ddau Ronaldo, adfywiad Everton a llawer mwy.
2/13/202035 minutes, 23 seconds
Episode Artwork

Lerpwl, Cei Conna a bwyd!

Owain a Malcolm sy'n trin a thrafod digwyddiadau’r wythnos yn y byd pêl-droed yng Nghymru a thu hwnt gan gynnwys Rownd Derfynol Cwpan Nathaniel MG, rhediad Lerpwl a llawer mwy.
2/3/202038 minutes, 17 seconds
Episode Artwork

Dyfodol Joe Allen, Y Swltan a Cwpan Cymru

Owain a Malcolm yn trin a thrafod digwyddiadau’r wythnos yn y byd pêl-droed yng Nghymru a thu hwnt gan gynnwys Joe Allen, Caerdydd yng Nghwpan FA Lloegr a Cwpan Cymru.
1/27/202040 minutes, 44 seconds
Episode Artwork

Rhys Meirion, dyddiau tywyll Man Utd a deuawd gyda Malcolm...

Y canwr a chyflwynydd Rhys Meirion sy'n cadw cwmni i Owain Tudur Jones a Malcolm Allen
1/22/202049 minutes
Episode Artwork

Moore. Mepham a Wrecsam

Owain a Malcolm yn trin a trafod digwyddiadau’r wythnos yn y byd pêl-droed yng Nghymru a thu hwnt gan gynnwys darbi de Cymru, Caerdydd yn ceisio arwyddo Kieffer Moore a Wrecsam.
1/13/202050 minutes, 40 seconds
Episode Artwork

Cwpan yr FA, Neco Williams a Joe Ledley

Owain a Malcolm sy'n trin a thrafod digwyddiadau’r wythnos yn y byd pêl-droed yng Nghymru a thu hwnt.
1/7/202039 minutes
Episode Artwork

Blwyddyn Newydd Dda!

Owain a Malcolm sy'n edrych nôl ar uchafbwyntiau’r byd pêl-droed yn 2019 ac yn edrych ymlaen i’r flwyddyn sydd i ddod, gan gynnwys Ewro 2020!
1/1/202024 minutes, 20 seconds
Episode Artwork

Huw Jack Brassington

Owain a Malcolm sy'n sgwrsio gyda’r mynyddwr Huw Brassington am ei brofiad o ddringo 47 o fynyddoedd mwyaf Eryri mewn 24 awr!
12/27/201943 minutes, 56 seconds
Episode Artwork

Y stori hyd yn hyn

Owain Tudur Jones a Malcolm Allen gyda pigion o’r gyfres hyd yn hyn gan gynnwys straeon a sgyrsiau gyda Yws Gwynedd, Iwan Arwel, Heledd Anna a Billy McBryde, Tudur Owen a Bryn Fôn
12/23/201944 minutes, 20 seconds
Episode Artwork

Noson Cyri

Owain Tudur Jones a Malcolm Allen yn rhoi’r byd pêl-droed yn ei le dros gyri mewn rhifyn Nadoligaidd.
12/17/201946 minutes, 9 seconds
Episode Artwork

Gemau Cwpan, Trundle a Sgorgasm

Cyn chwaraewyr Cymru, Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sydd yn bwrw golwg unigryw dros materion y byd pêl-droed yng Nghymru a thu hwnt.
12/12/201939 minutes, 20 seconds
Episode Artwork

Bryn Fôn, Hal a Cruyff

Bryn Fôn yw'r gwestai arbennig i drafod pêl-droed a’i yrfa fel canwr ac actor
12/3/201951 minutes, 47 seconds
Episode Artwork

Pantos, Mourinho a mavericks

Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy’n bwrw golwg unigryw dros ddigwyddiadau’r wythnos a fu yn y byd pêl-droed.
11/25/201941 minutes, 8 seconds
Episode Artwork

Nôl yn yr Euros!

Ymateb Owain Tudur Jones a Malcolm Allen wedi i Gymru sicrhau eu lle yn Euro 2020
11/20/201914 minutes, 45 seconds
Episode Artwork

Cymru a pryd o fwyd Chinese gyda John Hartson

Owain Tudur Jones a Malcolm Allen yn cnoi cil dros fuddugoliaeth Cymru yn Azerbaijan ac yn edrych ymlaen i’r gêm fawr yn erbyn Hwngari yn Gaerdydd.
11/18/201939 minutes, 1 second
Episode Artwork

Tudur Owen, Cymru a Warnock

Y digrifwr Tudur Owen sy'n cadw cwmni i Owain Tudur Jones a Malcolm Allen. Maen nhw'n edrych ymlaen at wythnos fawr i dîm Cymru ac yn trafod Neil Warnock yn gadael Caerdydd.
11/12/20191 hour, 7 minutes, 33 seconds
Episode Artwork

Abertawe a Caerdydd, Butcher a VAR (eto)

Owain Tudur Jones a Malcolm Allen yn pori dros ddigwyddiadau pêl-droed yr wythnos...
11/4/201941 minutes, 57 seconds
Episode Artwork

Darbis, rygbi a Xhaka

Owain Tudur Jones a Malcolm Allen yn trafod ar y gêm ddarbi fawr a mwy...
10/30/201950 minutes, 40 seconds
Episode Artwork

Cymru, Moore a mwy

Owain Tudur Jones a Malcolm Allen yn trafod gobeithion Cymru o gyrraedd Ewro 2020
10/15/201941 minutes, 12 seconds
Episode Artwork

Wythnos fawr i Gymru a bosys newydd yn Wrecsam a Bangor

Owain a Malcolm yn trafod wythnos fawr i Gymru a penodiadau difyr i Wrecsam a Bangor
10/7/201944 minutes, 45 seconds
Episode Artwork

Lwcaleics Malcolm, Tom Lawrence a’r Cymry oddi cartre

Owain a Malcolm sy'n bwrw golwg nol ar gemau’r penwythnos, wynebau coch crysau coch Uwch Gynghrair Cymru ac a fydd Ryan Giggs yn cynnwys Tom Lawrence yng ngharfan Cymru?
10/1/201944 minutes, 56 seconds
Episode Artwork

Dim croeso yn Slofacia!

OTJ a Malcs yn edrych ‘mlaen at y penwythnos ac yn trafod y newydd na fydd cefnogwyr yn cael mynychu gem Cymru yn Slofacia. Yr wythnos hon mae’r hogia yn cael cwmni Mandy Watkins
9/24/201953 minutes, 18 seconds
Episode Artwork

Newid siap y bêl

Owain Tudur Jones a Malcolm Allen yn edrych ‘mlaen at y penwythnos ac hefyd at Gwpan Rygbi’r Byd yn Japan. Yn y bennod yma mae’r hogia yn cael cwmni’r gyflwynwraig Heledd Anna a maswr Rygbi Gogledd Cymru Billy McBryde.
9/19/201947 minutes, 51 seconds
Episode Artwork

Cymru,Owen Tudor a Cookies

Wedi wythnos brysur, Owain Tudur Jones a Malcolm Allen yn asesu buddugoliaethau Cymru dros Azerbaijan a Belarws ac yn hel atgofion am eu capiau cyntaf.
9/11/201937 minutes, 47 seconds
Episode Artwork

Cymru, Geraint Iwan a Hud a Llefrith

Owain Tudur Jones a Malcolm Allen yn cael cwmni Geraint Iwan o Radio Cymru i edrych ymlaen at gêm Cymru yn erbyn Azerbaijan nos Wener a llawer mwy
9/3/201957 minutes, 49 seconds
Episode Artwork

Yws Gwynedd, Dafydd Ginola ac Elvis

Owain Tudur Jones a Malcolm Allen yn cael cwmni brenin siart #40Mawr Radio Cymru 2...
8/28/201958 minutes, 58 seconds
Episode Artwork

Dan James, Uwch Gynghrair Cymru... a Chyri

Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sydd yn bwrw golwg dros ddigwyddiadau a pynciau llosg yr wythnos bêl-droed ac yn edrych ymlaen at benwythnos agoriadol Uwch Gynghrair Cymru.
8/13/201950 minutes, 50 seconds
Episode Artwork

Penwythnos agoriadol y tymor, Osian Roberts, a’r dyfarnwr Iwan Arwel

Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy’n edrych nôl ar benwythnos agoriadol y tymor pêl-droed, yn trafod ymadawiad Osian Roberts, sgwrsio gyda’r dyfarnwr Iwan Arwel ac yn dyfalu pwy fydd pencampwyr Uwch Gynghrair Lloegr tymor yma.
8/7/201947 minutes, 14 seconds
Episode Artwork

Bill Gates, Steve Jobs a Malcolm Allen...

Mae sêr Yn y Parth wedi arwyddo i glwb newydd … croeso i’r Coridor Ansicrwydd!
8/1/201939 minutes, 2 seconds