Digon yw digon, wrth i Non Parry ddweud ei bod hi’n amser am sgwrs onest am iechyd meddwl. / Enough is enough, as Non Parry says it’s time to be upfront about mental health.
Eden
Yn ogystal a bod yn aelodau o'r grŵp eiconig Eden, mae Non, Emma a Rachael hefyd yn ffrindiau gorau.
Ym mhennod olaf y gyfres yma o Digon, mae'r dair yn trafod sut mae eu cyfeillgarwch wedi esblygu dros y blynyddoedd a'u gobeithion ac ofnau ar gyfer y dyfodol.
28/7/2021 • 1 hora, 0 minutos, 0 segundos
Trystan Ellis-Morris
Mewn sgwrs gynnes ac agored, mae'r cyflwynydd poblogaidd yn datgelu sut y mae wedi ymdopi gyda phwysau gwaith ar wahanol gyfnodau o'i fywyd.
Mae Trystan hefyd yn trafod ei gyfnod o salwch difrifol rai blynyddoedd yn ôl, a'r effaith mae hynny'n dal i'w gael arno.
19/7/2021 • 0 minutos, 0 segundos
Lisa Jên
Yn y bennod yma mae Non yn cael cwmni'r actor a cherddor Lisa Jên. Mewn sgwrs agored a chynnes, mae Lisa yn rhannu ei phrofiad o ddsygu a deall mwy y pethau sy'n effeithio ar ei iechyd meddwl.
Mae'r bennod yma'n cynnwys trafodaeth am themâu sy'n ymwneud a hunan-niweidio, allai beri gofid i rai gwrandawyr.
12/7/2021 • 1 hora, 0 minutos, 0 segundos
Richard Elis
Effaith enwogrwydd, 'toxic masculinity' a mwy ar iechyd meddwl...
22/6/2021 • 1 hora, 1 minuto, 0 segundos
Mari Gwenllian
Yr arlunydd ac aelod o grŵp Sorela sy'n trafod effaith hunanddelwedd ar iechyd meddwl.
Mae'r podlediad yma yn trafod themâu yn ymwneud â iechyd meddwl allai beri gofid i rai gwrandawyr.
14/6/2021 • 0 minutos, 0 segundos
Rhydian Bowen Phillips
Y cyflwynydd Rhydian Bowen Phillips sy'n ymuno â Non i drafod effaith cariad, galar a'r cyfryngau cymdeithasol ar iechyd meddwl.
Mae'r podlediad yma yn trafod themâu yn ymwneud â iechyd meddwl allai beri gofid i rai gwrandawyr.
7/6/2021 • 0 minutos
Meilir Rhys Williams
Yr actor Meilir Rhys Williams sy'n cadw cwmni i Non y tro yma
17/2/2021 • 0 minutos, 0 segundos
Tara Bethan
Y cerddor a chyflwynydd yw gwestai Non yn y bennod hon
10/2/2021 • 0 minutos, 0 segundos
Gruff Jones
Y cerddor a chynhyrchydd Gruff Jones yw'r gwestai y tro hwn.
3/2/2021 • 1 hora, 0 minutos, 0 segundos
Mari Lovgreen
Y cyflwynydd teledu ac awdur yw gwestai diweddaraf Non Parry
27/1/2021 • 0 minutos, 0 segundos
Dylan Cernyw
Yn y bennod yma caiff Non gwmni’r telynor Dylan Cernyw. Mae Dylan yn wyneb cyfarwydd ar lwyfannau Cymru yn cyfeilio i rai o'n cantorion a chorau mwyaf adnabyddus. Mae hefyd yn rhan o’r ddeuawd boblogaidd Piantel.
Mewn sgwrs agored, mae Dylan yn rhannu ei brofiadau fel dyn ifanc yn brwydro anhwylder bwyta, a’r effaith mae hyn wedi cael arno drwy gydol ei fywyd.
Mae Non hefyd yn rhannu ei phrofiadau o hunanddelwedd, a’r rhagfarn mae hi wedi ei wynebu ar gyfnodau o’i gyrfa fel menyw yn llygad y cyhoedd.
20/1/2021 • 0 minutos, 0 segundos
Caryl Parry Jones
Fel diddanwr, cerddor a chyflwynydd, Caryl Parry Jones yw un o wynebau mwyaf adnabyddus a dylanwadol y byd adloniant Cymreig. Mae hi’n gyfrifol am gyfoeth o anthemau pop cyfoes a’n llais cyfarwydd ar Sioe Frecwast Radio Cymru 2.
Ers ei phlentyndod yn cystadlu mewn eisteddfodau mae Caryl wedi byw gyda chyfnodau o or-bryder ac iselder.
Yn y bennod yma mae’n sôn am sut mae agweddau at iechyd meddwl wedi newid ers ei phlentyndod a'r adegau o'i bywyd pan y gwnaeth hi ddioddef. O'r coleg a dyddiau cynnar ei gyrfa hyd heddiw mae Caryl yn rhannu’r pethau mae hi wedi ei weld yn anodd.
Mae Caryl a Non hefyd yn rhannu eu profiadau fel rhieni yn trafod iechyd meddwl gyda'u plant.
13/1/2021 • 0 minutos, 0 segundos
Croeso i Digon
Digon yw digon, wrth i Non Parry ddweud ei bod hi’n amser am sgwrs onest am iechyd meddwl / Enough is enough, as Non Parry says it’s time to be upfront about mental health.