Winamp Logo
Mel, Mal, Jal: Dal i Siarad Podcast Cover
Mel, Mal, Jal: Dal i Siarad Podcast Profile

Mel, Mal, Jal: Dal i Siarad Podcast

Welsh, Social, 1 season, 18 episodes, 10 hours, 40 minutes
About
Mae podlediad Mel, Mal a Jal wedi cyrraedd BBC Sounds a’r dair yn dal i siarad am yr hyn sy’ o bwys iddyn nhw.
Episode Artwork

Dod i nabod ni 2.0

Does dim rheolau nawr gyda Mel, Mal a Jal. Wrth gloi'r gyfres mae’r tair yn gofyn be bynnag ma' nhw moen i'w gilydd i sicrhau eich bod chi yn dod i nabod nhw 2.0.
1/11/202446 minutes, 55 seconds
Episode Artwork

Y 30 Mawr

Ma'r 30 Mawr ar y gorwel i Mel, Mal a Jal - ydyn nhw yn hapus neu anhapus am hynny ac ydyn nhw wedi cyflawni bob dim oedden nhw wedi gobeithio neud cyn troi yn 30.
1/4/202441 minutes, 44 seconds
Episode Artwork

Iechyd Menywod: Y Tabw

Mae hanner y boblogaeth yn dioddef ac yn ympodi bob mis. Nawr ma Mel, Mal a Jal yn trafod y Mislif.
12/28/202334 minutes, 12 seconds
Episode Artwork

Pam fod bod yn frown ac yn Gymry yn anghytuno?

'Ni'n Frown ac o Gymru.. mae hynny weithie'n anodd'. Trafodaeth agored a gonest am hil, Cymreictod a chymdeithas. Yw pethau'n newid er gwell neu ydym ni wedi cymryd cam yn ôl?
12/21/202342 minutes, 17 seconds
Episode Artwork

Mae'r Agony Aunts yn ôl!

Fe ofynnodd Mel, Mal a Jal i chi rannu eich problemau, nawr dyma'r atebion.O ddêtio i gur pen gyrfa, mae'r dair yma i geisio helpu!
12/14/202344 minutes, 3 seconds
Episode Artwork

Bod yn Boss Bitch

Profiadau Mel, Mal a Jal yn y gweithle. Mel, Mal a Jal discuss their experiences in the workplace.
12/7/202341 minutes, 33 seconds
Episode Artwork

Deng mlynedd ers gadael yr ysgol...

Deng mlynedd ers gadael yr ysgol, mae Mel, Mal a Jal yn trafod y pethau sydd wedi newid ers hynny.Cawn glywed am aduniadau lletchwith, cyngor gyrfa gwael a’r broses hir o aeddfedu a thyfu’n gyfforddus yn eich hun.
11/30/202338 minutes, 59 seconds
Episode Artwork

Love Bombing ar y cyfryngau cymdeithasol

Mae Mel, Mal a Jal: Dal i Siarad yn ôl! Ym mhennod gyntaf yr ail gyfres mae'r dair yn trafod 'love bombing', sef dangos cariad ar y cyfryngau cymdeithasol. Ydi hyn yn eich gwneud chi wenu neu gyfogi?! Pa mor aml ddylech chi roi llun o'ch cariad ar Insta ac yw'r dêt cyntaf yn rhy gynnar?! Mae digon o farn a chwerthin wrth i ni glywed sgwrs gignoeth am y da, y drwg a'r dychrynllyd drwy lygaid Melanie Owen, Jalisa Andrews a Mali Ann Rees.
11/23/202337 minutes, 41 seconds
Episode Artwork

Zaddy

Cariad, cael plant, teulu. Yn y bennod yma mae Mel, Mal a Jal yn trafod pethau mawr bywyd! A sut mae dylanwad rhieni, magwraeth a theulu yn effeithio ar y math o berson rydym ni'n syrthio mewn cariad â nhw?
12/6/202219 minutes, 34 seconds
Episode Artwork

Dêtio ar ddydd Iau yn unig?!

Mae’r cyfryngau cymdeithasol ac aps wedi trawsnewid y ffordd mae pobl ifanc yn dod o hyd i gariad. Mae Mel, Mal a Jal wedi cael profiadau cymysg wrth eu defnyddio, gan brofi'r da, y drwg a'r crinj! Ond wrth gwrs mae aps a bywyd go iawn yn bethau gwahanol iawn. Yn enw ymchwil gwyddonol mae Mel yn rhoi cynnig ar rywbeth gwahanol a'n mynd ar dêt drwy ap ‘Thursday’; gwasanaeth sy'n gorfodi pobl i gyfarfod a’i gilydd. Ai dyma’r ffordd ymlaen, neu ai sweipio nôl a blaen yn ddiddiwedd yw ein dyfodol?! Mae gwerth gwrando i glywed stori Hugh Jackman!
11/21/202230 minutes, 48 seconds
Episode Artwork

Aberystwyth v Caerdydd v Port Talbot

Pa ddylanwad mae ardal eich magwraeth yn ei gael arnoch chi? Yn y bennod drawiadol yma cawn straeon o blentyndod a bywyd cynnar Mel, Mal a Jal a’u profiadau wrth dyfu fyny mewn tri rhan gwahanol o Gymru. Mae Melanie yn egluro sut y gwnaeth agweddau ac ymddygiad pobl eraill effeithio ar y ffordd roedd hi’n meddwl am ei hun fel person ifanc, a Mali a Jalisa yn trafod sut mae ardaloedd eu cartrefi nhw wedi newid. Oes gwahaniaeth rhwng magwraeth ddinesig a chefn gwlad? A pam fod disgwyliadau ychwanegol yn cael eu gosod ar bobl o gefndiroedd ethnig lleiafrifol? Yn y bennod agored ac emosiynol yma mae Mel, Mal a Jal yn ailymweld â phrofiadau ffurfiannol da a drwg, yn trafod pwysigrwydd cynrychiolaeth weladwy a’n gofyn beth all cymdeithas ei wneud yn well. Yng ngeiriau Mal: “Dychmyga byddom ni’n adnabod ein gilydd yn 8 oed, faint byddai rhannu'r profiadau yma gyda’n gilydd wedi helpu”.
11/10/202252 minutes, 54 seconds
Episode Artwork

Yw'r Mabinogi yn toxic?!

Perthnasau amheus, trais, twyll a mwy. Gadewch i ni fod yn onest, mae'r Mabinogi a chwedlau Cymru ychydig yn drafferthus! Yn y bennod yma mae Mel, Mal a Jal yn trio gwneud synnwyr o rai o hen chwedlau Cymru a'n ystyried os oes rhywbeth y gallwn ni ddysgu ohonyn nhw heddiw. Fyddech chi'n cwblhau deugain o dasgau er mwyn canlyn darpar bartner? Ac ai Kim Kardashian neu Zendaya yw Blodeuwedd ein hoes ni?! Tanysgrifiwch ar BBC Sounds i glywed penodau newydd yn syth.
11/2/202230 minutes, 37 seconds
Episode Artwork

Insta v realiti

Pa mor agored ydych chi ar y cyfryngau cymdeithasol? Beth sy'n cael lle ar y grid, a beth sy'n cael ei gadw ar gyfer ffrindiau agos yn unig? Yn y bennod yma mae Mel, Mal a Jal yn rhannu profiadau a barn am y da, y drwg a'r dryslyd wrth gyhoeddi ar-lein.
10/20/202233 minutes, 6 seconds
Episode Artwork

Gwrywdod gwenwynig

Yn y bennod yma mae Mel, Mal a Jal yn trafod gwrywdod gwenwynig. Boed mewn bywyd personol neu yrfa, pa effaith mae dod wyneb yn wyneb ac agweddau fel yma wedi'i gael arnyn nhw? Mae'r dair yn rhannu straeon personol a thrawiadol am eu profiadau, a'n ystyried beth allwn ni gyd ei wneud i herio arferion trafferthus. Tanysgrifiwch i glywed pob pennod ar BBC Sounds.
10/13/202231 minutes, 20 seconds
Episode Artwork

Ga’i weld dy CV?

Pa mor bwysig yw uchelgais a gyrfa wrth chwilio am gariad? I Melanie, mae'n hanfodol. Ond dyw Mali a Jalissa ddim mor siwr… Yn y bennod yma mae'r dair yn trafod gwaith, gyrfaoedd, uchelgais, arian a mwy. Beth yw'r gyfrinach pan mae'n dod at berthynas?
10/5/202239 minutes, 12 seconds
Episode Artwork

Beth yw ‘Fetishization’?

Ydych chi'n gyfarwydd â'r gair 'fetishization'? Yn y bennod yma mae Mel, Mal a Jal yn trafod ystyr y term, a'i gysylltiad anghyfforddus gyda hunaniaeth person. Sut mae'n effeithio ar fenywod heddiw, a sut mae wedi gwneud i'r dair deimlo yn eu bywydau nhw? Tanysgrifiwch i Mel, Mal, Jal: Dal i Siarad ar BBC Sounds.
9/28/202239 minutes, 12 seconds
Episode Artwork

Delwedd corff

Beth sy’n cael effaith ar y ffordd rydych chi’n meddwl am eich hun a'ch corff? Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn gallu rhoi pwysau arnom ni i geisio edrych ein gorau pob awr o’r dydd. Ond ydi hyn yn newid a phobl ifanc bellach yn chwilio am brofiad ar-lein mwy realistig? Mewn sgwrs agored a hwyliog mae Mel, Mal a Jal yn trafod sut mae eu agwedd nhw at eu cyrff yn newid o hyd, ac effaith y disgwyliadau all gael eu gosod ar bawb. Tanysgrifiwch i glywed penodau newydd o Mel, Mal a Jal: Dal i Siarad ar BBC Sounds.
9/21/202236 minutes, 28 seconds
Episode Artwork

Mel, Mal, Jal: Dal i Siarad

Mae podlediad Mel, Mal a Jal wedi cyrraedd BBC Sounds ac mae'r ffrindiau yn dal i siarad am y pethau sydd o bwys iddyn nhw. Bydd sgyrsiau hwyliog am bethau hapus a heriol bywyd, gan gynnwys gyrfaoedd, dêtio, hunaniaeth, teulu a mwy. Bydd llwyth o chwerthin ar hyd y ffordd a digonedd o straeon a safbwyntiau difyr am fywydau'r tair.
9/20/202212 seconds