Mae hanes Cymru yn llawn pobl ryfeddol a chymeriadau mawr. Dewch ar daith hwyliog gyda Llinos Mai i'w cyfarfod!
Porth Teigr
Hanes Mawr Cymru - y podlediad hanes i blant 9-12 oed sy'n cymryd cipolwg ar hanes Cymru ac yn dod ag ef yn fyw drwy gyflwyniad a chân.
Yn y bennod hon, Lloyd Lewis sy'n adrodd hanes Porth Teigr.
5/31/2024 • 10 minutes, 19 seconds
Yr Anthem Genedlaethol
Llinos Mai sy'n cyflwyno cyfres arall o Hanes Mawr Cymru - y gyfres ar gyfer plant 9-12 oed sy’n cymryd elfen o hanes Cymru ac yn dod ag ef yn fyw trwy gomedi a chân.Yn y bennod hon cawn glywed am hanes ein hanthem genedlaethol ‘Hen Wlad Fy Nhadau’ ac am y ddau a’i hysgrifennodd hi, Evan a James James. Mae’n stori difyr sy’n cynnwys yr afon Rhondda, sgandal yn y papurau newyddion, yr Hakka, a Thywysog Cymru. Felly ar eich traed, mae’n amser i ni ganu.
4/26/2024 • 12 minutes, 18 seconds
Cranogwen
Llinos Mai sy'n cyflwyno cyfres arall o Hanes Mawr Cymru - y gyfres ar gyfer plant 9-12 oed sy’n cymryd elfen o hanes Cymru ac yn dod ag ef yn fyw trwy gomedi a chân.Yn y bennod hon gawn ni hanes Sarah Jane Rees - 'Cranogwen'.
4/12/2024 • 11 minutes, 14 seconds
Y Tywysogion
Llinos Mai sy'n cyflwyno cyfres arall o Hanes Mawr Cymru - y podlediad hanes i blant 9-12 oed sy'n cymryd cipolwg ar hanes Cymru ac yn dod ag ef yn fyw trwy gomedi a chân.
Yn y bennod hon, teithiwch yn ôl 900 mlynedd i ddarganfod hanes dau o dywysogion enwocaf Cymru: yr Arglwydd Rhys a Llywelyn Fawr. Er roedd y Normaniaid wedi goresgyn tiroedd Lloegr ers tro fe gymerodd sawl canrif iddyn nhw goncro Cymru, diolch i’r Tywysogion Cymreig. Byddwch yn barod am ddadleuon, rhyfela gwaedlyd a llawer o gacen.
4/12/2024 • 11 minutes, 46 seconds
Y Celtiaid
Llinos Mai sy'n cyflwyno cyfres arall o Hanes Mawr Cymru - y gyfres ar gyfer plant 9-12 oed sy’n cymryd elfen o hanes Cymru ac yn dod ag ef yn fyw trwy gomedi a chân.Yn y bennod hon, mae Llinos yn archwilio popeth roeddech chi eisiau ei wybod am y Celtiaid. Pwy oedden nhw? Ble redden nhw’n byw? Sut oedden nhw'n byw? A pham roedd trwsus mor bwysig iddyn nhw? Awdur: Llinos Mai
Ymgynghorydd hanesyddol: Dr. Nia Wyn Jones
Cynhyrchydd cerddoriaeth: Dan Lawrence
Golygydd sgript: Rhys ap Trefor
Cynhyrchydd: Llinos Jones (Terrier Productions)Dylunio: Hefin Dumbrill
3/29/2024 • 9 minutes, 59 seconds
Betsi Cadwaladr
Llinos Mai sy'n cyflwyno cyfres arall o Hanes Mawr Cymru - y gyfres ar gyfer plant 9-12 oed sy’n cymryd elfen o hanes Cymru ac yn dod ag ef yn fyw trwy gomedi a chân.Yn y bennod gyntaf, mae Llinos yn adrodd hanes Betsi Cadwaladr- a elwir rhai ‘The Welsh Florence Nightingale’. Roedd hi’n gymeriad lliwgar, hynod annibynnol, ac aeth yn groes i ddisgwyliadau cymdeithas y cyfnod. Yn ystod y 19eg ganrif aeth Betsi ar anturiaethau o gwmpas y byd, cyn mynd i weithio fel nyrs yn Rhyfel y Crimea. Cyflwynydd/ Awdur: Llinos Mai
Ymgynghorydd hanesyddol: Dr. Nia Wyn Jones
Cynhyrchydd cerddoriaeth: Dan Lawrence
Golygydd sgript: Rhys ap Trefor
Cynhyrchydd: Llinos Jones (Terrier Productions)
3/29/2024 • 10 minutes, 59 seconds
Y Gymraeg
Mae’r iaith Gymraeg wedi wynebu sawl her a chyfnod anodd. Felly sut y gwnaeth hi oroesi? Dewch ar daith drwy'r canrifoedd i ddysgu mwy...
Awdur: Llinos Mai Cynorthwydd sgript: Siân Rhiannon Williams Cynhyrchydd: Llinos Jones (Terrier Productions) Dylunio: Hefin Dumbrill
5/20/2022 • 9 minutes, 57 seconds
Jemima Nicholas
Ym 1797 fe wnaeth Ffrainc ymosod ar Brydain, ond roedd menyw ddewr o Abergwaun yn barod amdanyn nhw.
Pe bai ymosodiad Ffrainc wedi bod yn llwyddiannus, fe allai hanes Cymru a Phrydain wedi bod yn wahanol iawn.
Cobler oedd Jemima Nicholas, a phan glywodd bod deuddeg milwr o Ffrainc gerllaw fe aeth i’w herio gyda dim byd ond fforch wair...
Awdur: Llinos Mai Cynorthwydd sgript: Siân Rhiannon Williams Cynhyrchydd: Llinos Jones (Terrier Productions) Dylunio: Hefin Dumbrill
5/20/2022 • 10 minutes, 16 seconds
Owain Glyndŵr
Mae hanes Cymru yn llawn arwyr cofiadwy, ac mae’n bosib mai dyma’r mwyaf enwog ohonyn nhw i gyd...
Dewch yn ôl 800 mlynedd i gyfarfod Owain Glyndŵr, y Cymro olaf i gael ei alw yn Dywysog Cymru. Ai ef ddylai ennill Arwr-ffactor Hanes Mawr Cymru?!
Awdur: Llinos Mai Cynorthwydd sgript: Siân Rhiannon Williams Cynhyrchydd: Llinos Jones (Terrier Productions) Dylunio: Hefin Dumbrill
5/20/2022 • 10 minutes, 10 seconds
Yr Eisteddfod
Croeso i barti mwyaf y flwyddyn! Mae traddodiad barddol Cymru yn chwedlonol, a phob mis Awst daw miloedd at ei gilydd i gystadlu a chymdeithasu. Ond wyddoch chi fod yr arfer yma’n mynd yn ôl canrifoedd?
O Eisteddfodau bach lleol i’r digwyddiadau mawr sy’n gyfarwydd i ni heddiw, dyma hanes sy’n llawn gwisgoedd a chymeriadau lliwgar.
Awdur: Llinos Mai Cynorthwydd sgript: Siân Rhiannon Williams Cynhyrchydd: Llinos Jones (Terrier Productions) Dylunio: Hefin Dumbrill
5/20/2022 • 10 minutes, 34 seconds
Merched Beca
Pwy oedd Merched Beca a beth oedd yr helynt mawr?
Yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd bywyd yn galed iawn yng nghefn gwlad Cymru.
Roedd ffermwyr yn rhentu eu ffermydd, ac roedd gan y bobl oedd yn berchen y tir ddylanwad mawr ac arian a threthi.
Ond pan gafodd tollbyrth eu gosod ar ffyrdd, fe benderfynodd y werin bobl wrthryfela...
Awdur: Llinos Mai
Cynorthwydd sgript: Siân Rhiannon Williams
Cynhyrchydd: Llinos Jones (Terrier Productions)
Dylunio: Hefin Dumbrill
5/20/2022 • 9 minutes, 21 seconds
Glo, diwydiant a chymunedau
Roedd pyllau glo yn llefydd tywyll a pheryglus a’r gwaith yn galed iawn. Ond fe gafodd y diwydiant effaith enfawr ar Gymru a gweddill y byd.
Fe wnaeth cymunedau ffurfio yng nghymoedd y De-ddwyrain a daeth pobl o wahanol rannau o’r byd i fyw a gweithio ym mhorthladdoedd y dinasoedd mawr, ble roedd y glo yn cael ei allforio.
Ond er mai pobl gyffredin wnaeth adeiladu’r diwydiant, roedd llawer o’r elw wedi diflannu o’u cymunedau erbyn i oes y pyllau glo ddod i ben.
Awdur: Llinos Mai Cynorthwydd sgript: Siân Rhiannon Williams Cynhyrchydd: Llinos Jones (Terrier Productions) Dylunio: Hefin Dumbrill
5/20/2022 • 10 minutes, 25 seconds
Croeso i Hanes Mawr Cymru
Llinos Mai sy’n cyflwyno cynulleidfa ifanc i Hanes Mawr Cymru!
Tanysgrifiwch nawr i glywed y gyfres gyfan yn syth.